Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgyblion Sir y Fflint yn gweithredu dros fannau chwarae mwy diogel
Published: 19/08/2025
Mae disgyblion o Ysgol Mynydd Isa wedi cymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â phroblem barhaus baw cwn mewn mannau chwarae.
Fel rhan o fenter gydweithredol rhwng Ysgol Mynydd Isa, Cyngor Cymuned Argoed, Cadwch Gymru'n Daclus a Chyngor Sir y Fflint, fe wahoddwyd plant i gymryd rhan mewn cystadleuaeth poster creadigol ar y thema ‘Cwn Tu Allan, Plant Tu Mewn’.
Y nod oedd creu arwyddion clir, parchus a thrawiadol i’r llygad er mwyn sicrhau nad yw perchnogion cwn yn gadael i’w hanifeiliaid anwes fynd heibio ffens y cae pêl-droed ym Mharc Clawdd Wat fel bod modd cael lle chwarae glân a diogel i blant chwarae.
Roedd yr ymateb yn ardderchog ac fe dderbyniwyd dros 200 darn o waith ag ôl meddwl gan blant sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Nid oedd dewis yr enillydd yn dasg hawdd, ond dewisodd y beirniaid yr un ddau ddyluniad yn annibynnol. Llongyfarchiadau i Max J. (Blwyddyn 4) a Poppy B. (Blwyddyn 2). Mae eu posteri bellach wedi’u hargraffu’n broffesiynol a’u gosod ym mynedfeydd parciau. Bydd yr arwyddion hyn yn ffordd gadarn o atgoffa pobl ynghylch pwysigrwydd gwarchod mannau lle mae plant yn chwarae.
Yr hyn sy’n bwerus am y fenter hon yn benodol yw creadigrwydd y gwaith, yn ogystal â’r aeddfedrwydd, yr empathi a’r ymdeimlad o gyfrifoldeb sy’n cael ei ddangos gan blant Ysgol Mynydd Isa. Ym mhob darn o waith, fe wnaeth y disgyblion gyfleu eu neges gyda gwir barch- gan gydnabod rôl perchnogion cwn cyfrifol, wrth hefyd gymell newid mewn ymddygiad er diogelwch pawb a’r amgylchedd lleol. Er bod rhai wedi datgelu bod gan rai pobl, yn cynnwys plant, ofn cwn, tynnodd sawl un sylw at y risgiau iechyd difrifol sy’n gysylltiedig â baw cwn, sy’n cynnwys bacteria niweidiol a all achosi salwch difrifol ac mewn achosion eithafol, arwain at ddallineb.
Yr hyn sy’n bwysig yw bod y plant wedi cydnabod ei bod yn broblem ymhell y tu hwnt i ffensys parciau. Yn ogystal â pheri risgiau i feysydd chwarae a chaeau chwaraeon- mae’n halogi palmentydd, parciau cyhoeddus a charpedi mewn ysgolion lle mae plant yn eistedd, chwarae a dysgu. Mae eu dadleuon yn pennu neges glir mai’r cam cyntaf i warchod iechyd y cyhoedd yw cymryd camau unigol cyfrifol.
Meddai’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Mae’r prosiect hwn yn destament grymus i ddylanwad lleisiau pobl ifanc o ran datblygu cymunedau iachach a mwy diogel. Mae’r plant hyn wedi dangos ymwybyddiaeth, trugaredd ac awydd cryf i wella eu hamgylchedd. Mae’r posteri yn fwy na chelf - maent yn negeseuon o barch, gofal, cyfrifoldeb a gweithredu.”
Fe wnaeth y ddau fyfyriwr a enillodd dderbyn tystysgrifau cyflawniad a’r anrhydedd o weld eu gwaith celf yn cael ei drawsnewid yn arwydd cymunedol parhaol, yn waddol o ran sut y gall y dinasyddion ieuengaf ysgogi newid gwirioneddol ac ystyrlon.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa preswylwyr bod caniatáu mynediad i gwn i fannau chwarae dynodedig neu beidio â glanhau ar eu hôl yn torri’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Gall y sawl sy’n troseddu dderbyn Rhybudd Cosb Benodedig ac wynebu dirwyon o hyd at £1,000.
Rydym yn annog holl berchnogion cwn i gael eu hysbrydoli gan negeseuon ystyriol a pharchus y plant, drwy ddangos yr un gofal a chyfrifoldeb tuag at ein mannau cyhoeddus a rennir. Os ydych chi’n berchennog ci cyfrifol, beth am fynd gam ymhellach ac ymuno â’n menter Cerddwyr Cwn Gwyrdd? Drwy arwyddo’r addewid ar ein gwefan, rydych yn ymrwymo i lanhau ar ôl eich ci bob amser ac, os oes angen, cynnig bagiau baw cwn dros ben i eraill. Fel diolch, bydd eich ffrind fflwfflyd yn derbyn bandana Cerddwyr Cwn Gwyrdd i’w wisgo- gan helpu i ledaenu’r neges gyfeillgar hon, sy’n ystyriol o’r gymuned.
Rydym hefyd yn annog ysgolion ledled Sir y Fflint i gymryd rhan mewn mentrau tebyg neu gefnogi’r ymgyrch Cerddwyr Cwn Gwyrdd drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar ein gwefan. Trwy wneud hynny, gallant chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol a dangos esiampl gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gymryd rhan mewn gweithgareddau gwella’r amgylchedd yn y dyfodol, cysylltwch â: cadwchsiryfflintyndaclus@siryfflint.gov.uk