Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grant Cist Gymunedol 2014-15
Published: 15/04/2014
Mae Grant Cymunedol Cyngor Sir y Fflint ar agor ar gyfer y rownd gyntaf o
geisiadau.
Sefydlwyd Cynllun Grant y Gist Gymunedol i gefnogi gweithgarwch gwirfoddol a
chymunedol yn Sir y Fflint. Yn y gorffennol mae ystod eang o grwpiau cymunedol
wedi sicrhau grantiau i ddarparu gwasanaethau lleol a helpu i hyrwyddo ysbryd
cymunedol, gan gynnwys clybiau chwaraeon, sefydliadau gofal plant, grwpiau
iechyd a chymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr.
Gall unrhyw sefydliad cymunedol neu wirfoddol di-elw sy’n gweithredu neu’n
gwasanaethu Sir y Fflint i gyd neu’n rhannol wneud cais. Gellir gwneud
ceisiadau am uchafswm o £1,000.
Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sydd ag incwm blynyddol llai na £10,000.
Gall ymgeiswyr sydd ag incwm blynyddol dros hynny wneud cais ond dim ond os
gallant ddarparu tystiolaeth glir i ddangos na allai mudiad gwirfoddol
cymunedol arall o’r ardal leol ymgymryd â’r prosiect neu’r fenter.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 30 Mai 2014.
Am arweiniad ynglyn â sut i wneud cais a/neu i gael ffurflen gais, ffoniwch
01352 702340 neu edrychwch ar wefan:
http://www.flintshire.gov.uk/en/YourCouncil/Funding-Opportunities/Community-Ches
t.aspx