Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Cyngor Sir y Fflint – Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2024/25

Published: 09/07/2025

Mabwysiadwyd Cynllun y Cyngor 2023/28 gan y Cyngor fis Mehefin 2023 ac fe gaiff ei adolygu’n flynyddol i asesu’r perfformiad yn erbyn y blaenoriaethau; Tlodi, Tai Fforddiadwy a Hygyrch, Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, yr Economi, Lles Personol a Chymunedol, Addysg a Sgiliau, a Chyngor a Reolir yn Dda.

Drwy gydol 2024/25, roedd 99% o’r 140 cam gweithredu yn wyrdd neu’n oren – sy’n golygu eu bod nhw wedi’u cwblhau neu’n gwneud cynnydd boddhaol. O ran ein mesurau ni, roedd 82% o’r 87 mesur ar y trywydd cywir neu’n dderbyniol.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd y Cyngor: “Dw i’n ddiolchgar iawn i’r staff sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni blaenoriaethau’r Cyngor ac yn gwneud Sir y Fflint yn lle i ymfalchïo ynddo. Mae’r Cyngor yn wynebu heriau, ond byddwn yn gweithio gyda budd-ddeiliaid allweddol, cymunedau, staff ac Aelodau i’w goresgyn.”

Meddai Neal Cockerton, Prif Weithredwr: “Diolch i bob aelod o staff sydd wedi cyfrannu at y canlyniad perfformiad da yma. Mae’r Cyngor yn gweithio dan amodau heriol, gyda phwysau cyllidebol sy’n gwaethygu. Er mwyn cyflawni’r amcanion corfforaethol, a chynnal gwasanaethau effeithiol ac effeithlon, mae’n cydnabod bod y daith yn un o adolygu a newid parhaus.”

Yn dilyn adolygiad diweddar gan Archwilio Cymru, mae’r Cyngor wedi cynnal Adolygiad Canol Cynllun o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2023/28 i ystyried y pwysau cyllidebol cynyddol ac argymhellion Archwilio Cymru. Mae Cynllun newydd ar gyfer 2025-2030 yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cael ei rannu at ddibenion ymgynghori yn ystod y misoedd nesaf.