Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Bro
Published: 18/06/2025
Yn ystod y 12 mis diwethaf mae’r tîm Ysgolion Bro wedi bod yn gweithio gyda’r ddwy ysgol arbennig yn Sir y Fflint i hwyluso gweithgareddau ar gyfer teuluoedd a phlant gydag anghenion cymhleth. Gan ddechrau hanner tymor mis Chwefror a gweithio gyda Gwella a darparwyr eraill, cynhaliwyd gweithgareddau yn Nhy Calon a chanolfannau hamdden y Fflint a Glannau Dyfrdwy.

Hyd yma mae 13 diwrnod o weithgareddau wedi’u darparu, yn cynnwys chwarae meddwl, bowlio, chwarae synhwyraidd, aml-chwaraeon, sglefrio iâ, ysgol goedwig, crefftau byw yn y gwyllt, theatr a disgo.
Mae cyfanswm o 121 o deuluoedd wedi cymryd rhan mewn 880 o sesiynau, a dyma beth oedd gan rai o’r rhieni i’w ddweud: “Lle diogel i’m plant gael chwarae”, “Gweithgareddau oedd wir ei angen”, “Yr hanner tymor gorau erioed”, “Rydym ni’n edrych ymlaen at weithgareddau’r hanner tymor nesaf”, “Cael cefnogaeth yn lle beirniadaeth”, “Yn ogystal â bod yn fuddiol i’r plentyn, maen nhw’n fuddiol i ni fel rhieni hefyd”.
“Fe wnaethoch chi a’r tîm waith arbennig. Gan nad oes clybiau gwyliau sy’n cynnig gwasanaeth i blant gydag ADY, mae’r gweithgareddau hyn yn darparu cyfle i fwynhau a chyffroi mewn amgylchedd gwahanol sy’n diwallu anghenion y plant. Dylai bod hwn yn gynnig parhaol gyda digon o gyllid yn cael ei neilltuo ar ei gyfer.”
Meddai’r Cyng. Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
“Mae’n wych, drwy weithio mewn partneriaeth â Gwella, bod yr amrywiaeth yma o weithgareddau wedi’u cynnig i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol a’u bod nhw wedi mwynhau cymryd rhan yn y sesiynau. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, diolch i’r tîm Ysgolion Bro a chyllid grant gan Lywodraeth Cymru.”