Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc Arfordir Sir y Fflint yn elwa ar Gymorth Willmott Dixon
Published: 30/05/2025
Cefnogwyd Ceidwad Arfordir Tîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint gan Willmott Dixon yn ystod diwrnod gwirfoddoli i staff yn y Fflint y mis hwn.
Roedd y diwrnod yn rhan o ymrwymiad Willmott Dixon i gefnogi’r gymuned leol drwy Werth Cymdeithasol yn y Fflint, lle mae wedi bod yn gweithio i adeiladu cartref gofal newydd Ty Croes Atti ar safle’r hen ysbyty cymunedol.
Ar y diwrnod, bu staff Willmott Dixon yn gweithio â’r Ceidwad Arfordirol, Mike Taylor, wrth wella mannau eistedd mewn golygfan yn Aber Afon Dyfrdwy yn y Fflint. Bu’r gwirfoddolwyr wrthi’n brysur yn peintio clwydi a bolardiau, chwynnu, ysgubo, a thaenu llwch calchfaen o amgylch y mannau eistedd. Y Fflint yw’r prif ganolbwynt ym Mharc Arfordir Sir y Fflint, lle mae pobl yn dod i fwynhau’r golygfeydd o Parkgate a phatrymau dyddiol y llanw a thrai. Mae’n boblogaidd â cherddwyr a gosodwyd mainc yno drwy’r prosiect ‘Oddi ar y Fflint’.
Yn ogystal â’r staff a fu’n gwirfoddoli, cyfrannodd Willmott Dixon ddeunyddiau i wella'r man eistedd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson (Aelod Cabinet dros Gyllid a Gwerth Cymdeithasol): "Rydym yn falch iawn o brosiectau gwerth cymdeithasol fel hyn. Mae gwerth cymdeithasol yn gynyddol bwysig i bawb.
“Yn y bôn, gwerth cymdeithasol yw’r effaith y mae sefydliadau’n ei chael ar gymunedau lleol a’r gymdeithas ehangach, drwy wario arian yn lleol ar gontractau, gwirfoddoli, creu swyddi, gweithgareddau ymarferol a rhoddion. Mae’n creu cyfleoedd inni hybu lles pobl ochr yn ochr â busnesau yn y sector preifat ac yn ein galluogi i gynnal gweithgareddau fel hyn i wella’r ardal leol.
“Dyma enghraifft wych o sut y gall diwydiant a’r sector cyhoeddus weithio’n agos i wella Arfordir Sir y Fflint trwy werth cymdeithasol. Gobeithiwn y bydd pobl yn mwynhau ymweld a mwynhau’r lle ar ei newydd wedd, a chael golygfeydd hyfryd o Aber Afon Dyfrdwy."
Roedd diwrnod y gwirfoddolwyr yn garreg filltir i Willmott Dixon ac i gymuned y Fflint, lle cwblheir cartref gofal newydd Ty Croes Atti yn yr haf, a fydd yn darparu tai graenus i 56 o bobl leol fyw ynddynt yn ddiweddarach yn eu hoes.
Wrth ddatblygu Cartref Gofal Ty Croes Atti hyd yn hyn, mae Willmott Dixon, Cyngor Sir y Fflint a’u partneriaid wedi creu cyfanswm o 13 o gyfleoedd newydd am waith i drigolion lleol Sir y Fflint, gan gynnwys tair o swyddi i bobl a fu’n ddi-waith am gyfnod hir yn flaenorol a dau ar gyfer pobl wedi gadael y carchar.
Treuliodd tîm Willmott Dixon 214 o oriau’n cynnal gweithgareddau addysgol a 223 o oriau’n gwirfoddoli, gan gefnogi mentrau cymunedol lleol. At ei gilydd, mae Willmott Dixon wedi gwario £5.6m o’u cyllid prosiect yn Sir y Fflint.
Daw cyfraniad Willmott Dixon yn sgil amryw ddarnau o waith i wella Parc Arfordir Sir y Fflint, a agorwyd yn swyddogol ym mis Mawrth eleni yn nigwyddiad Gwyl y Môr yn y Fflint. Mae’r Cyngor wedi elwa ar gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2023 a 2024 i wella Parc Arfordir Sir y Fflint er budd trigolion ac ymwelwyr â’r Sir.
Dywedodd Rosie McLaren, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Willmott Dixon: “Rydym yn rhannu brwdfrydedd Cyngor Sir y Fflint dros greu cyfleoedd yn y gymuned ac rydym yn benderfynol y bydd adeiladu Ty Croes Atti yn gadael gwaddol parhaus er budd y bobl leol.”
Mae Parc yr Arfordir yn amlygu cynefin naturiol cyfoethog Aber Afon Dyfrdwy ac Arfordir Sir y Fflint ac yn hynod arwyddocaol wrth sicrhau bod gan bobl fynediad i’r amgylchedd naturiol, ar gyfer hamdden ac i wella eu hiechyd a’u lles.
Mae Parc yr Arfordir yn ymestyn ar draws arfordir Sir y Fflint o Saltney i Dalacre, gan gynnwys Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Llannerch-y-môr a Mostyn, a Gronant.
