Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Balchder cymunedol yn disgleirio gyda llwyddiant Gwanwyn Glân yr Wyddgrug

Published: 23/05/2025

Mae’r Wyddgrug wedi dangos ei hysbryd cymunedol anhygoel a’i ymrwymiad amgylcheddol unwaith eto gyda Gwanwyn Glân 2025.

Dros bythefnos, cydweithiodd breswylwyr, ysgolion, sefydliadau lleol a busnesau i dynnu 1.267 tunnell o wastraff oddi ar strydoedd, parciau, strydoedd cefn a mannau cyhoeddus y dref.

Wedi’i drefnu gan Gyngor Tref yr Wyddgrug, mewn partneriaeth gyda Mold Plastic Reduction, protffolio Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint a hyrwyddiadau’r farchnad, ac fel rhan o ymgyrch ehangach Gwanwyn Glân Cymru drwy Cadw Cymru’n Daclus, daeth y digwyddiad â’r gymuned ynghyd gyda nod gyffredin - gwneud yr Wyddgrug yn dref lanach a mwy deniadol.Mold Spring Clean 2025 1.jpg

Gwelodd ganolbwynt yr ymgyrch, Dydd Sadwrn Mawr (29 Mawrth), wirfoddolwyr yn casglu 330kg o sbwriel mewn pedair awr, yn ystod ymgyrch glanhau ar raddfa fawr ledled y dref. Torchodd breswylwyr, disgyblion a sefydliadau lleol eu llewys a gwneud effaith sylweddol - gan ddarparu pwer ymdrech gyfunol, gyda nifer o wirfoddolwyr yn mynd cam ymhellach drwy ddidoli’r gwastraff a gasglwyd i’w ailgylchu.

Gyda Mold Plastic Reduction, Cadw Cymru’n Daclus a Chyngor Sir y Fflint yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd am bwysigrwydd lleihau gwastraff a sbwriel, rhoddodd ReSource arddangosiadau byw yn Sgwâr Daniel Owen, yn dangos sut y gallai plastig a gasglwyd ar y diwrnod ei ailbwrpasu i eitemau defnyddiol. Sbardunodd eu harddangosfa ymarferol chwilfrydedd a brwdfrydedd ymysg cyfranogwyr a phobl oedd yn galw heibio, gan atgyfnerthu gwerth ailgylchu ac ailddefnyddio.

Chwaraeodd fusnesau lleol rôl allweddol, gyda’r Mad Moo yn tretio gwirfoddolwyr i fyrger am ddim, Ferry Chem Cyf yn cyflenwi bagiau melyn ar gyfer gwastraff ailgylchadwy - gan amlygu cefnogaeth gref busnesau lleol.

Cynhaliwyd ymdrech ysbrydoledig ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch, pan ymunodd breswylwyr Stryd y Dwr, Stryd yr Eglwys, Stanley Street a Brook Street i glirio a gwella’r lonydd cefn rhwng eu cartrefi. Arweiniodd eu hysbryd penderfynol at dynnu 265kg o sbwriel, gan drawsnewid y mannau cudd hyn yn ardaloedd mwy glân a diogel yn y gobaith y byddai’r gymuned ehangach yn eu parchu wrth symud ymlaen.

Drwy gydol yr ymgyrch pythefnos o hyd, cymerodd ystod eang o unigolion a sefydliadau ran. Cefnogwyd ymdrechion casglu sbwriel gan y P&A Group, Tate & Lyle, Clwb Rygbi’r Wyddgrug dan 15, Bwrdd Crwn yr Wyddgrug a Bwcle, Clwb Plant yng Nghanolfan Gymunedol Parkfields, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Smurfit Westrock, CPD Yr Wyddgrug, Clickery Financial Cyf, Eglwys Stryd Tyddyn, ac ysgolion lleol, gan gynnwys Dewi Sant a Bryn Gwalia - gan arddangos dyfnder ac amrywiaeth ymrwymiad cymuned yr Wyddgrug.Mold Spring Clean 2025 2.jpg

Uchafbwynt creadigol Gwanwyn Glân oedd y gystadleuaeth cerflun plastig, a oedd yn gwahodd disgyblion i greu gwaith celf yn defnyddio deunyddiau glân, ailgylchadwy’n unig.  Yr enillwyr oedd Thomas a Harlow o Ysgol Bryn Coch, a oedd wedi bachu sylw’r beirniaid gyda’u ceisiadau - pysgodyn yn arnofio mewn bocs a morfil disglair - gan arddangos eu dychymyg a’u perthnasedd amgylcheddol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, Glyn Banks: “Mae Glanhau Gwanwyn yr Wyddgrug gymaint mwy na gwaredu sbwriel. Mae’n sefydlu synnwyr o berchnogaeth, gan ysbrydoli pobl ifanc a chydweithio i adeiladu cymuned gryfach a glanach. Mae’r canlyniadau yn ardderchog, ac rydym yn hynod falch o bawb a gymerodd rhan.

Mae ymdrechion yr Wyddgrug hefyd yn cyfrannu at yr Ymgyrch Million Mile gan Surfers Against Sewage, a gefnogir yn lleol gan Mold Plastic Reduction, gan ddod ag egni lleol i symudiad y DU cyfan i fynd i’r afael â llygredd plastig.

Os hoffech chi gefnogi Glanhau Gwanwyn yr Wyddgrug yn 2026, cysylltwch ag events@moldtowncouncil.org.uk