Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darpariaeth Addysg yn Ardal Saltney a Brychdyn 

Published: 06/06/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i barhau i foderneiddio ysgolion y Sir i sicrhau darpariaeth addysg o safon uchel a mwy o gyfleoedd i ddisgyblion Sir y Fflint i gael budd o amgylchedd dysgu ‘o’r radd flaenaf’ a’r addysg o’r ansawdd gorau.   

Mae’n allweddol bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r cymunedau yn Saltney a Brychdyn i ddatblygu cynllun sy’n cyflwyno strategaeth newydd ar gyfer addysg yn yr ardal sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn cyflawni’r amcan cyffredinol o ddarparu’r addysg gynradd ac uwchradd o’r ansawdd gorau ar gyfer dysgwyr.  

Y cam cyntaf yw i’r Cyngor ymgysylltu â’r cymunedau lleol yn Saltney a Brychdyn mewn proses i geisio eu barn.   Diben yr ymarfer ymgysylltu cynnar hwn yw:- 

  • Rhannu barn bresennol y Cyngor am ddarpariaeth addysg posibl yn yr ardal yn y dyfodol gyda budd-ddeiliaid allweddol
  • Cynnal sgwrs agored am yr amrywiol heriau wrth ddarparu model darpariaeth newydd
  • Deall barn cymunedau lleol a cheisio eu hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth adeiladol gyda’r Cyngor, i gyflawni model darpariaeth newydd sy’n arwain at y cyfleusterau gorau i gefnogi deilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael.

Mae swyddogion y Cyngor a phenaethiaid Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood, Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Brychdyn wedi gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i greu dogfen ac arolwg byr ‘Ymgysylltu Buan’.  Bydd yr ymatebion gan y gymuned yn helpu i ddatblygu dewisiadau ar gyfer y dyfodol.   Mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r Cyngor wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ynglyn â darpariaeth addysg yr ardal.

Bydd yr holiadur Ymgysylltu Buan yn agored rhwng 6 Mehefin 2023 a hanner nos ar 3 Gorffennaf 2023 ac mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/School-Modernisation-Related/SaltneyBroughton-Area.aspx