Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr pren newydd yn agor yn Nhalacre

Published: 31/05/2023

drone talacre board walk.jpgMae platfform gwylio a llwybr pren newydd yn Nhalacre wedi agor yn swyddogol ar gyfer eu defnyddio yn dilyn ymdrech amlasiantaethol i wella’r hen lwybr. 

Cydlynwyd y gwaith gan Dîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint, ac ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Llwybr Arfordir Cymru, ac fe’i gweinyddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyda chyllid cyfatebol gan Eni UK Limited.  

Mae’r ymdrech hwn ar y cyd wedi arwain at lwybr pren newydd sy’n darparu llethr mwy llydan a haws ei ddefnyddio gyda mannau pasio ychwanegol ac mae platfform gwylio i gael gwell mynediad at y traeth a phrofiad gwell i ymwelwyr. 

Croesawodd y llwybr newydd ei ymwelwyr cyntaf o Ysgol Owen Jones yn Llaneurgain, pan gymerodd y disgyblion ran mewn diwrnod addysg arfordirol gan Eni UK fel rhan o’u gweithgaredd buddsoddiad cymunedol yn yr ardal.

Dywedodd y Cyng. David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd y llwybr pren blaenorol wedi cael ei ddefnyddio’n fawr ac roedd yn un o’r prif bwyntiau mynediad o Dalacre i’r traeth, yn arbennig ar gyfer ymwelwyr â phroblemau symudedd.  Roedd angen ei uwchraddio ac felly gobeithio bydd y strwythur newydd yn cyflawni’r gwaith!  Mae wedi cael ei ddylunio i fod yn lletach, yn fwy hygyrch a sensitif i’r cynefinoedd pwysig ar Dwyni Tywod Talacre.”

Mae’r prosiect yn un o lwyddiannau diweddaraf y bartneriaeth hirdymor rhwng Eni UK, Cyfoeth Naturiol Cymru a Thîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint. Mae’r bartneriaeth wedi cyflawni gwelliannau amgylcheddol enfawr, megis clirio rhywogaethau goresgynnol, gwaith i helpu ailgyflwyno a diogelu rhywogaethau mewn perygl megis y llyffant cefnfelyn a madfall y tywod ac adfer cynefinoedd megis y llaciau twyni tywod.

Ysgol Owen 160323 3.jpg

Llun:

  • Disgyblion o Ysgol Owen Jones yn mwynhau’r defnydd cyntaf o’r platfform gwylio a’r llwybr pren newydd yn Nhalacre
  • Y llwybr pren newydd yn Nhalacre (Llun – Ben Parry)