Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Dathlu Meicro-Ofal

Published: 31/05/2023

Micro-care celebration evening - group photo.jpgBu Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod ei fentrau meicro-ofal, sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r sector gofal yn Sir y Fflint, mewn Digwyddiad Dathlu ar 24 Mai, yn yr Holiday Inn, A55, Gorllewin Caer. Daeth dros 40 o bobl, sawl un ohonynt yn ddarparwyr Meicro-Ofal, i glywed am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud o fewn y gymuned, y llwyddiannau mae pobl wedi eu cael o sefydlu eu meicro-fentrau eu hunain yn Sir y Fflint, ac er mwyn i’r Cyngor ddiolch yn fawr am wasanaeth y mentrau Meicro-Ofal ers i’r prosiectau gychwyn yn 2019.  

Mae Meicro-Ofalwyr yn bobl sydd wedi sefydlu eu busnesau eu hunain, un ai i weithredu fel masnachwr unigol neu gyda nifer fechan o staff, i gefnogi pobl gyda gofal personol neu les yn ardal Sir y Fflint. Ar hyn o bryd, mae 31 o Ofalwyr-Meicro sy’n rhoi cefnogaeth hollbwysig i dros 150 o bobl yn yr ardal, gan ddarparu gofal uniongyrchol neu wasanaethau lles creadigol. Mae’r datblygiad newydd hwn o fewn y sector gofal wedi galluogi Cyngor Sir y Fflint i atynnu pobl newydd i’r gweithlu, a denu pobl sydd wedi gadael yn y gorffennol i ddychwelyd, gan alluogi pobl i reoli eu patrymau gwaith, drwy redeg eu busnesau eu hunain. 

Fe glywodd y gynulleidfa gan Ofalwyr-Meicro, ar sut wnaeth y cyfle i redeg busnes eu hunain yn y maes gofal cymdeithasol wahaniaeth iddynt, a chaniatáu iddynt siarad am pam fod eu gwasanaeth mor hanfodol. Cafodd hyn ei gefnogi gan aelodau teulu’r bobl maent yn eu cefnogi, a roddodd eu safbwyntiau ar beth roedd y gwasanaethau wedi gwneud dros eu perthnasau, yn ogystal â phobl o’r cyngor, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, sy’n darparu cefnogaeth fusnes i Ofalwyr-Meicro, a Chronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi gydag ariannu’r prosiect. 

Siaradodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling yn nigwyddiad y dathliad, ac meddai; 

“Mae Meicro-Ofalwyr wedi darparu gwasanaeth ofnadwy o werthfawr i bobl ledled ardal Sir y Fflint dros y 3 blynedd diwethaf, ac mae’n galonogol clywed sut mae Meicro-Ofalwyr wedi newid bywydau’r sawl sy’n sefydlu eu busnesau, yn ogystal â’r bobl maent yn eu cefnogi. Nod heno yw dathlu popeth maent wedi ei gyflawni, a rhoi diolch gwresog i’r Meicro-Ofalwyr, ynghyd â’n partneriaid, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint,, GOGDdC a Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y prosiectau.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, sef Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a oedd hefyd yn bresennol; 

“Mae heno’n gyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i bob Meicro-Ofalwr, sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig iawn dros y 3 blynedd diwethaf. Rydym wedi bod yn ofnadwy o lwcus i elwa o’r bobl yn ein cymuned sy’n dangos brwdfrydedd, ymrwymiad a gwerthoedd er mwyn cymryd y cam nesaf o sefydlu eu busnes eu hun, ac sydd yn ei dro, yn darparu gwasanaethau gwych, o werth sylweddol.

I ganfod rhagor am fod yn Ofalwr-Meicro, neu i wybod mwy am y gwasanaethau maent yn eu cynnig, cysylltwch â micro-care@flintshire.gov.uk neu ewch i Meicro-Ofal yn Sir y Fflint (gofalynsiryfflint.co.uk)