Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahoddir ysgolion i gymryd rhan mewn mentrau amgylcheddol

Published: 17/05/2023

VEM_LM.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio â Menter Effaith Gymunedol (CIL), grwp budd cymunedol lleol gyda’r nod o helpu i gefnogi dysgwyr ifanc i ddatblygu sgiliau a phrofiad ymarferol, i wneud gwahaniaeth i’r gymuned.

Bu i ddisgyblion o nifer o ysgolion ledled Sir y Fflint gymryd rhan mewn mentrau amgylcheddol i godi ymwybyddiaeth o faw cwn a sbwriel yn y gymuned.

Cymerodd Ysgol Bryn Deva ran yn y fenter ‘Bagio binio’ ym Marc Canolog, Cei Connah.  Roedd eu canfyddiadau yn cyd-fynd ag ymchwil gan ddangos fod 9 o 10 perchennog ci yn glanhau ar ôl eu cwn. Fodd bynnag, bu i’r un allan o 10 o berchnogion oedd yn weddill arwain at ganfod 130 o achosion o faw cwn yn 30% o’r parc o fewn chwe mis.  

Mae’r fenter ‘Bagio, binio’ yn hyrwyddo perchnogaeth cwn cyfrifol a chadarnhaol i’r lleiafrif o berchnogion cwn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.  Mae olion pawennau pinc llachar wedi eu paentio ar y llawr i arwain pobl at y bin agosaf gan erfyn arnynt i’w ‘fagio, binio’ a dim ond gadael ‘olion pawennau’ fel rhan o ymgyrch Cadw Cymru’n Daclus.

Bu i Ysgol Gynradd Gatholig yr Hybarch Edward Morgan a’r Heddlu Bychan o Ysgol Gynradd Queensferry helpu i godi ymwybyddiaeth ym Mharc Dyfrdwy, Shotton.  Casglodd y plant 10 bag o sbwriel, chwistrellu negeseuon ar y palmentydd gyda phaent sialc yn gofyn i berchnogion cwn ‘Bagio, binio’, ac arddangos posteri ynglyn â baw cwn o amgylch y parc.  

Dywedodd Mrs Doyle o Ysgol Gynradd Gatholig yr Hybarch Edward Morgan:

“Roeddwn eisiau diolch i Gyngor Sir y Fflint a CIL.  Dywedodd y disgyblion eu bod wir wedi mwynhau cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol a helpu ein hamgylchedd ar gyfer eu dyfodol. Mae baw cwn yn broblem fawr, ac felly roeddem yn falch o helpu i godi ymwybyddiaeth yn Shotton.”

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Mae baw ci a sbwriel yn parhau i fod yn broblem yn Sir y Fflint.  Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cwn yn glanhau ar ôl eu cwn, rydym yn apelio at y lleiafrif bychan o berchnogion cwn anghyfrifol i sicrhau nad oes baw cwn yn ein hardaloedd cyhoeddus.”

Mae’n galonogol iawn gweld y plant ysgol hyn yn cymryd rhan ac yn gosod esiampl i weddill y gymuned i sicrhau nad oes baw cwn ar ein strydoedd a’n palmentydd.

Dywedodd Gareth o’r Fenter Effaith Gymunedol:

“Mae ein hymgyrch gymunedol i gadw Sir y Fflint yn daclus ac i godi ymwybyddiaeth o broblemau baw cwn wedi bod yn llwyddiant enfawr hyd yma!  Mae’r myfyrwyr ifanc o’r ysgolion hynny sydd eisoes yn cymryd rhan wedi ymuno gyda brwdfrydedd gwych ac mae’r adborth ganddynt wedi bod yn anhygoel.” 

Hoffai CIL glywed gan ysgolion eraill i ymuno ac addo cefnogaeth ar gyfer eu hymgyrch.  Cynhelir digwyddiadau ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus i grwpiau o fyfyrwyr.  

Os yw eich ysgol yn fodlon cymryd rhan mewn unrhyw un o brosiectau CIL, cysylltwch â keepflintshirtidy@flintshire.gov.uk neu eu dilyn ar Facebook https://www.facebook.com/KeepFlintshireTidy