Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn derbyn aelodaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)

Published: 17/05/2023

2223-15128 Age Friendly Flintshire - Flintshire Age Friendly Communities logo FULL COLOUR.jpgMae Sir y Fflint wedi derbyn yr anrhydedd o ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar. Wedi’i sefydlu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn 2016, mae’r Rhwydwaith Oed-Gyfeillgar yn cysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ar draws y byd gyda gweledigaeth a rennir o wneud cymunedau yn llefydd gwych i fynd yn hen. 

Mae Sir y Fflint yn ymuno â thros 1400 o ddinasoedd, siroedd a chymunedau mewn 51 gwlad sy’n cael eu cydnabod fel llefydd sy’n gweithio i wella pa mor oed-gyfeillgar yw eu hardaloedd. Fel yr ail le yng Nghymru i ymuno (Dinas Caerdydd yw’r llall), mae hyn yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad oed-gyfeillgar lle mae pobl o bob oed yn cael cefnogaeth i fyw a heneiddio’n dda a chymryd rhan yn eu cymunedau. 

Derbyniwyd yr aelodaeth ar ôl cyflwyno cynllun i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint. Mae’r cynllun yn darparu tystiolaeth o arferion oed-gyfeillgar ac yn nodi camau gweithredu i’w blaenoriaethau a fydd yn cael eu datblygu gydag unigolion yn y gymuned i wneud Sir y Fflint yn lle mwy cyfeillgar i oed. 

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Cefnogwr o Blaid Pobl Hyn, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: 

“Mae’n bleser gennyf gadarnhau ein cais llwyddiannus i dderbyn statws Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar. Mae’r cais, a gafodd ei gydlynu gan dîm Heneiddio’n Dda y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dangos yn glir sut mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i ddatblygu prosiectau a mentrau sy’n galluogi pobl o bob oed i heneiddio’n dda. 

Wrth gwrs, dydi ymuno â’r Rhwydwaith Oed-Gyfeillgar ddim yn golygu bod ein gwaith ni ar ben. Mae’r aelodaeth yn cadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i wneud gwelliannau oed-gyfeillgar yn ein cymunedau. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd i rannu profiadau a dysgu gan rwydwaith o aelodau ar draws y byd.” 

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru:

“Hoffaf longyfarch Sir y Fflint am ddod yn rhan o Rwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar, fel rhan o’i gwaith i wneud ei chymunedau yn fwy cyfeillgar i oed. Mae hyn yn cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod pob preswylydd yn cael cefnogaeth i heneiddio’n dda ac yn dangos y cynnydd rydym ni’n ei wneud yng Nghymru i ychwanegu bywyd at flynyddoedd yn hytrach na blynyddoedd at fywyd. 

Mae ymuno â’r rhwydwaith yn gyfle i’r awdurdod lleol a’i bartneriaid ddysgu gan ddinasoedd cymunedau a sefydliadau eraill ar draws y byd, yn ogystal â rhannu arferion da a syniadau Sir y Fflint. 

Rwy’n falch iawn o weld awdurdod arall yng Nghymru yn derbyn statws aelodaeth Rhwydwaith y WHO a bod llawer o gynghorau eraill wrthi’n cwblhau eu ceisiadau i ymuno â’r rhwydwaith. 

Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Sir y Fflint, yn ogystal â’r rheiny sy’n cwblhau eu ceisiadau ar hyn o bryd, wrth i’w cynlluniau ddatblygu a chael eu cyflawni gyda phobl hyn i sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau yn cael eu clywed. 

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rwy’n falch o weld bod yr £1.1 miliwn rydym ni wedi’i addo i helpu i greu Cymru sy’n gyfeillgar i oed ac sy’n cefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda yn cael effaith gadarnhaol mewn llefydd fel Sir y Fflint.

Mae’r cyllid hwn yn rhan o’n Strategaeth Cymru o Blaid Pobl Hyn, un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu. Mae pob awdurdod lleol wedi derbyn £50,000 i benodi swyddog arweiniol i weithio tuag at ymuno â Rhwydwaith Byd-eang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

Ymuno â’r rhwydwaith hwn yw cam cyntaf y daith bwysig hon sy’n cael ei gwneud gan yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld Sir y Fflint yn gweithio gyda phobl hyn yn eu cymunedau i greu llefydd gwych i ddathlu bywyd hyn.”

Am fwy o wybodaeth: https://siryfflint.gov.uk/SiryFflintsynGyfeillgariOed