Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mabwysiadu Is-ddeddfau Tyllu’r Croen

Published: 17/05/2023

 

Gofynnir i Aelodau’r Cabinet fabwysiadu is-ddeddfau sy’n ymwneud â thyllu’r croen pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 23 Mai.

Gofynnir i aelodau fabwysiadu is-ddeddfau i helpu i ddiogelu'r cyhoedd a gwella cydymffurfiaeth mewn perthynas â gweithgareddau megis tyllu clustiau, tatwio, aciwbigo ac electrolysis.  

Wrth roi sylwadau ar yr is-ddeddfau, dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Diogelwch y cyhoedd yw’r sbardun allweddol i fabwysiadu’r is-ddeddfau ac rwy’n falch o ddweud bod y rhan fwyaf o fusnesau sy’n tyllu’r croen ar draws Sir y Fflint eisoes yn cadw at y safonau hylendid llym a nodir yn yr is-ddeddfau.

Fodd bynnag, rwy’n croesawu mabwysiadu’r is-ddeddfau’n ffurfiol er budd yr holl ymarferwyr cofrestredig a fydd yn helpu i reoleiddio tyllu’r croen yn effeithiol.”

Bydd mabwysiadu'r is-ddeddfau yn ffurfiol yn rhoi ystod o bwerau gorfodi i'r Cyngor gan gynnwys Hysbysiadau Cosb Benodedig a chynnal achosion cyfreithiol i'w gorfodi. 

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, bydd yr is-ddeddfau’n cael eu mabwysiadu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII, adrannau 14 i 17, a fydd yn berthnasol i bob un o’r 78 o ymarferwyr cofrestredig yn Sir y Fflint o 1 Awst 2023.