Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau am Waith

Published: 15/05/2023

Gofynnir i Aelodau’r Cabinet gymeradwyo trefniadau newydd i gefnogi pobl ddi-waith ledled Sir y Fflint pan fydd y Cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth 23 Mai.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn eu galluogi i barhau i gefnogi pobl ddi-waith yn y sir ar ôl i gyllid Ewropeaidd ddod i ben ar 31 Mawrth 2023.

Wrth siarad am y cyllid gan Lywodraeth Cymru, dywedodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey:

“Rwy’n falch bod Cymunedau am Waith wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i barhau â’i gwaith cadarnhaol i gefnogi pobl yn ein cymunedau i oresgyn rhwystrau i gael gwaith a’u helpu i ddysgu a datblygu drwy gefnogaeth fentora.

Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod nifer o bobl, drwy waith caled ac ymrwymiad y tîm Cymunedau am Waith, wedi llwyddo i gael swyddi a bydd y cyllid hwn yn helpu’r tîm i barhau ar y llwybr llwyddiant hwn.”

Bydd y rhaglen Cymunedau am Waith yn blaenoriaethu ei gyllid ar:

  • ymgysylltu a darparu cefnogaeth fentora hirdymor i’r bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur er mwyn eu galluogi i oresgyn rhwystrau i gael gwaith ac addysg,

  • cefnogi cyflogwyr i recriwtio ymgeiswyr addas yn enwedig trwy ddarparu ffeiriau swyddi,

  • darparu cyfleoedd dysgu byr sy’n canolbwyntio ar waith i unigolion er mwyn darparu’r sgiliau a’r achrediadau sydd eu hangen arnynt i gael swyddi mewn sectorau allweddol gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu a lletygarwch, a

  • chydlynu cefnogaeth cyflogadwyedd yn y sir i sicrhau bod cyfranogwyr yn cael gwasanaeth cydgysylltiedig.

Gall bobl ddi-waith sy’n byw yn Sir y Fflint gysylltu â Chymunedau am Waith am wybodaeth bellach a chefnogaeth trwy e-bostio cfwtriage@flintshire.gov.uk