Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau Benthyciad Adfywio Canol Tref

Published: 12/05/2023

Bydd gofyn i Aelodau’r Cabinet gymeradwyo’r meini prawf a dull i weinyddu a rheoli cynllun benthyciad adfywio canol tref pan fydd yn cyfarfod dydd Mawrth, 23 Mai.

Mae £2,450,000 o fenthyciad adfywio canol tref wedi’i ddyfarnu i Gyngor Sir y Fflint gan Lywodraeth Cymru.  

Mae’r cyllid, sydd angen ei dalu’n ôl, wedi anelu i hwyluso cyflawniad Llywodraeth Cymru o’i fframweithiau polisi adfywio strategol sydd yn ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd, cefnogi twf economi leol, arallgyfeirio defnydd yr eiddo o fewn canol y dref, a helpu rhoi bywyd newydd i dir ac eiddo mewn lleoliadau canol dref ledled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd David Healy, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi am y cyllid:

“Mae adfywio canol tref yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae’r cyllid hwn drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol ymlaen i gefnogi canolfannau tref ar draws Sir y Fflint. 

Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer o safleoedd ac eiddo gwag, diangen sy’n cael eu tanddefnyddio yn ein canol trefi, a chefnogi arallgyfeirio drwy annog mwy o ddefnydd cynaliadwy i safleoedd ac eiddo gwag ar draws y sir.  

Bydd y cyllid yn galluogi’r Cyngor i weithio gyda pherchnogion a datblygwyr eiddo i gefnogi buddsoddiad yn eu heiddo a chyflawni prosiectau adfywio sy’n cael eu harwain gan y cyngor.”

Gofynnir i Aelodau’r Cabinet i gymeradwyo’r meini prawf i reoli a gweinyddu’r cyllid, a fydd yn cynnwys cael a datgloi safleoedd ac eiddo gyda’r bwriad o becynnu a gwerthu cynnig ar y farchnad agored; ailddatblygu neu ailwampio safleoedd ac eiddo; darparu benthyciadau i drydydd parti i ad-dalu o fewn amserlen a gytunir.

Dylai’r rheiny sydd â diddordeb ym manylion y cynllun gysylltu â’r Tîm Adfywio regeneration@flintshire.gov.uk i drafod eu cynllun arfaethedig ymhellach.