Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad i'r Wasg 'Pythefnos Gofa Maeth' Maethu Cymru

Published: 15/05/2023

 

Untitled.jpgMaethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth

Mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth

Wrth i deuluoedd ar draws y wlad frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw parhaus, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i ddod yn ‘gyfeillgar i faethu’, yn y gobaith o fynd i’r afael â’r camsyniad na allwch barhau i weithio os byddwch yn dod yn ofalwr maeth.

Mae’r Pythefnos Gofal Maeth hwn (15-28 Mai), mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi eu cefnogaeth a'i gwneud yn haws i'w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, prif elusen faethu’r DU, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall ac mae eu polisi ‘cyfeillgar i faethu’ yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd drwy’r broses ymgeisio.

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth, i ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, presenoldeb mewn paneli, i setlo plentyn newydd yn eu cartref ac i ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi.

Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth hanfodol ym mhenderfyniad cyflogai i ddod yn ofalwr maeth.

Mae Caroline Carding wedi bod yn Ofalwr Maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint ers 13 mlynedd ac mae hi wedi parhau i weithio i’r Awdurdod Lleol yn ogystal â maethu ar yr un pryd. Dywedodd hi:

“Rwy’n teimlo’n lwcus i gael fy nghyflogi gan sefydliad sy’n ‘Gyfeillgar i Faethu’. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig yr hyblygrwydd i mi weithio a hefyd gyflawni fy rôl fel gofalwr maeth, rôl yr wyf wedi mwynhau ei wneud ers 13 mlynedd.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig cymorth drwy ganiatáu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i mi y gellir eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant, gofal brys plant a dyletswyddau maethu eraill a allai godi. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant: 

“Mae estyn allan at gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu yn un o lawer o bethau rydym yn ei wneud i gefnogi ein gofalwyr maeth yn Sir y Fflint.

I gyd-fynd ag ymrwymiadau bywyd a gwaith, rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg i ofalwyr maeth.

Mae hyn yn golygu bod unrhyw hyfforddiant a sgiliau trosglwyddadwy o’u gweithle yn cael eu cydnabod, yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu gwerthfawr sy’n berthnasol i’r plant y maent yn gofalu amdanynt, trwy ein fframwaith dysgu a datblygu cenedlaethol Maethu Cymru.”

Ychwanegodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:

“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru gamu i’r adwy.

Rydyn ni’n gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun i’w cefnogi am y tymor hir, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell.

Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint ewch i: https://maethucymru.siryfflint.gov.uk 

I wybod mwy am ddod yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu yng Nghymru, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/gweithio-a-maethu/