Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffair Swyddi Lwyddiannus arall yn Sir y Fflint!

Published: 28/04/2023

Jobs Fair.jpgDaeth dros 400 o bobl i Ffair Swyddi a gynhaliwyd yn y Neuadd Ddinesig yng Nghei Connah yn ddiweddar.

Roedd y Ffair Swyddi wedi’i hanelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a bu’n gydweithrediad llwyddiannus arall rhwng Cymunedau am Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.

Roedd dros 40 o gyflogwyr yn bresennol gyda nifer o swyddi gwag yn cynnwys:

Grwp Bwyd 2 Sisters, Y Fyddin, Blue Bird Care, Swyddfa Cyngor ar Bopeth, Coleg Cambria, Excell Supply, Cyngor Sir y Fflint, Gap Personnel, Kingswood, Lester Cladding, Moneypenny, MPH Construction Ltd, Arlwyo a Glanhau NEWydd a llawer mwy.

Yn ogystal ag ymgeisio am nifer o’r swyddi gwag, roedd yna gyfle i’r rhai oedd yn bresennol i gyfarfod cyflogwyr a’u holi’n uniongyrchol yn ogystal â dysgu am y gefnogaeth cyflogaeth sydd ar gael drwy Gymunedau am Waith a Mwy a Gyrfa Cymru. 

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhoi cyngor ymgynghorol arbenigol am gyflogaeth a mentora dwys i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn Sir y Fflint nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant.   Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael drwy’r rhaglen yn Sir y Fflint, e-bostiwch CFWtriage@flintshire.gov.uk 

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey: “Bu’n grêt bod yn rhan o Ffair Swyddi lwyddiannus arall.   Yn benodol dwi eisiau diolch i’r sefydliadau partner a ddaeth ynghyd i drefnu’r digwyddiad ac i’r busnesau a fynychodd i gynnig cyfleoedd i breswylwyr Sir y Fflint.” 

Dylai unrhyw gyflogwyr a hoffai fod yn rhan o ddigwyddiadau yn y dyfodol e-bostio Swyddogion Cyflogaeth Arweiniol, janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk