Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pobl ifanc Sir y Fflint yn ymweld â Hwngari

Published: 28/04/2023

Hungary.jpgYn gynharach y mis hwn, cafodd 13 o bobl ifanc o Sir y Fflint gyfle gwych i deithio i Hwngari am 8 diwrnod ac ymweld â dinasoedd mawr fel Bwdapest, Fienna a Bratislava. 

Aeth swyddogion o Wasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint mewn partneriaeth ag Urdd Gobaith Cymru, gyda’r grwp ar y daith, a ariannwyd gan Taith.   Yn ogystal â sicrhau bod pawb yn cael amser gwych, pwyslais y daith oedd i’r bobl ifanc feithrin sgiliau annibyniaeth, magu hyder a hunan-barch a gwneud ffrindiau newydd wrth ymweld â gwlad newydd.   

Bu i’r swyddogion rannu diweddariadau dyddiol gyda rhieni a gwarchodwyr y bobl ifanc i roi gwybod iddynt sut oedd y bobl ifanc yn dod yn eu blaen a pha dasgau yr oeddent wedi’u cyflawni.   Bu i’r grwp ddysgu sgiliau paratoi a choginio, canwio, cynllunio taith a chydweithio fel tîm. 

Meddai un unigolyn ifanc: “Fe wnes i fwynhau’n fawr iawn ac rwyf wedi gwneud ffrindiau arbennig.   Rwy’n teimlo’n hyderus iawn rwan ac eisiau diolch yn fawr i’r staff am fy helpu gyda fy hyder, ni wyddoch cymaint y mae hynny wedi fy newid!   Hwn oedd y daith orau erioed ac rwy’n edrych ymlaen at weld fy ffrindiau newydd eto yn fuan iawn.” 

Dywedodd Darren Morris, Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint:  “Rydym yn canmol y bobl ifanc hyn am eu hymddygiad rhagorol, eu cwrteisi, eu parodrwydd i ymgysylltu a chymryd rhan ym mhopeth a oedd yn eu hwynebu.   Rydym wedi gweld lindys yn tyfu i fod yn löynnod byw.   Mae’r trawsnewidiad yn y bobl ifanc hyn wedi bod yn anhygoel ac rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’u profiad.” 

Dywedodd Matt Hayes, Uwch Reolwr ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint, “Diolch i Urdd Gobaith Cymru am ein dewis ni fel partneriaid ar gyfer y daith arbennig hon a hefyd i Taith am y cyllid y maent wedi’i roi i’r Urdd.  Mae wedi bod yn brofiad gwych i’n pobl ifanc yma yn Sir y Fflint ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o gyfleoedd cyffrous i gydweithio yn y dyfodol.” 

IMG_0102.JPG