Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cyflymu dros £18m mewn taliadau i gefnogi busnesau bach lleol

Published: 25/04/2023

Oxygen Finance logo.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi talu dros £18m  yn gynnar i fusnesau bach a micro, gan gyflymu taliadau i fusnesau lle mae angen arian parod ar frys.

Mae’r Rhaglen ‘FreePay’, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag Oxygen Finance, wedi cyflymu cronfeydd hanfodol i’r economi leol i gefnogi cyflenwyr bach gyda’u llif arian a hybu twf.

Mae cyflenwyr cymwys, bach, lleol yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar y rhaglen ‘FreePay’. Mae ‘FreePay’ yn galluogi'r Cyngor i dalu cyflenwyr yn gynnar yn ddi-dâl, gan gefnogi twf busnes a darparu gwerth cymdeithasol.

Mae dros 10,000 o anfonebau wedi’u talu’n gynnar am ddim gan y Cyngor ers lansio’r cynllun ac mae dros 330 o gyflenwyr bellach wedi cofrestru ar y rhaglen ‘FreePay’.  Gwneir taliadau mewn llai na hanner yr amser a gontractiwyd a thros y 3 mis diwethaf mae hyn wedi bod yn 7 diwrnod ar gyfartaledd.

Mae taliad cyflymach am ddim yn helpu cyflenwyr bach gyda’u llif arian a gall leihau’r ddibyniaeth ar fenthyciadau neu gyfleusterau gorddrafft, ar adeg pan fo’r argyfwng costau byw yn cael effaith enfawr ar fusnesau lleol a’u gweithwyr.

Croesawodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet dros Gyllid, yr ystadegau diweddaraf a dywedodd: “Rydym yn falch o allu cynnig taliadau cynnar i’n cyflenwyr bach a micro drwy’r cynllun hwn.  Wrth i’r argyfwng costau byw roi mwy o bwysau ar fusnesau bach a’u gweithwyr, bydd “FreePay” yn parhau i gyflymu arian parod i’r busnesau sydd ei angen fwyaf.” 

 

Amcangyfrifir bod 20% o fusnesau bach wedi wynebu problemau llif arian oherwydd taliadau hwyr.  Mae derbyn taliad cyn gynted â phosibl yn dod â buddion sylweddol i gwmnïau bach a mawr ac yn gallu gwneud effaith fawr ar dwf a datblygiad busnesau. 

Mae busnesau mwy hefyd yn gymwys i ymuno â rhaglen FastTrack y Cyngor.  Mae'r rhaglen, a ddarperir hefyd gan Oxygen Finance, yn cymhwyso ad-daliad bach, y cytunwyd arno ymlaen llaw, yn seiliedig ar ba mor gyflym y caiff y taliad ei gyflymu. Mae'r rhaglen yn rhoi cyllid ychwanegol i'r cyngor i'w ail-fuddsoddi i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol.

Wrth wneud sylw ar y Rhaglen FastTrack, ychwanegodd y Cynghorydd Johnson: “Mae’r Rhaglen FastTrack yn cynnig manteision sylweddol i’n cyflenwyr gyda chwmnïau’n derbyn taliadau’n effeithlon ac mewn graddfeydd amser llawer byrrach na’r telerau y cytunwyd arnynt. Rydym yn annog cyflenwyr i gofrestru fel y gallant hwythau hefyd gael mynediad at daliadau cynharach a manteision hynny.”

Gan weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor, dywedodd Ben Jackson, Prif Swyddog Gweithredol Oxygen Finance: “Rydym wedi ymrwymo i greu gwerth cymdeithasol a chefnogi cynghorau i helpu eu cymunedau. Mae’n wych gweld beth mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i gyflawni a’r gwahaniaeth y mae FastTrack a FreePay yn ei wneud i gyflenwyr a’r economi leol.”