Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn nodi Carreg Filltir yn natblygiad Campws Mynydd Isa

Published: 24/04/2023

Robertson Mold 210423 031.JPGJeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, oedd y gwestai anrhydeddus heddiw, dydd Gwener 21 Ebrill, wrth nodi carreg filltir o bwys ar safle newydd Campws Mynydd Isa.

Ymunodd y Gweinidog â chynrychiolwyr Cyngor Sir y Fflint, Partneriaeth Addysg Cymru a chwmni adeiladu Robertson Construction i lofnodi’r un cyntaf o’r trawstiau dur ar gyfer y campws addysg newydd a fydd yn croesawu mwy na 1,300 drwy’r gatiau pan fydd yn agor fis Tachwedd 2024.

Campws Mynydd Isa fydd yr ysgol gyntaf i’w sefydlu drwy Bartneriaeth Addysg Cymru gan ddefnyddio Model Buddsoddiad Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru.  Yn llofnodi’r trawst gyda’r Gweinidog roedd Isla, Osian, Leo a Ruby, disgyblion ym mlynyddoedd 4 a 5 yn Ysgol Mynydd Isa a Chloe a Zac, disgyblion ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Argoed, a fydd oll yn mynd i’r campws newydd.

Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: 

“Rwy’n falch o weld y prosiect hwn yn cychwyn, prosiect addysg cyntaf Model Buddsoddiad Cydfuddiannol i ddod at derfyn ariannol, a’r campws syth-drwodd cyntaf dan y rhaglen.  

Edrychaf ymlaen at weld y cyfleusterau a chyfleoedd bendigedig y bydd yr ysgol gynaliadwy hon yn eu cynnig i ddisgyblion y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Rydw i wrth fy modd yn cynrychioli’r awdurdod lleol heddiw wrth nodi carreg filltir bwysig yn adeiladu Campws Mynydd Isa.  

Mae’n adeg gyffrous wrth adeiladu’r campws newydd ac rwy’n falch y bydd disgyblion lleol hefyd yn cael cyfle i gyfrannu drwy lofnodi’r trawstiau dur.  

Rydw i’n edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu’n dod yn ei flaen ac i groesawu’r disgyblion pan fyddant yn dod i’r campws newydd ym mis Tachwedd 2024.”

Ychwanegodd Elliot Robertson, Prif Weithredwr Grwp Robertson: 

“Mae llofnodi’r ffrâm ddur heddiw’n ffordd o ddatgan ein bwriad yn bendant i ddod â’r Campws newydd i fodolaeth.  Rydyn ni yma nid yn unig fel y contractwr a benodwyd i wneud y gwaith adeiladu, ond hefyd fel darparwyr y gwasanaethau cynnal a chadw ar gyfer strwythur a seilwaith y Campws.  

“Wrth lofnodi’r trawst rydym yn ymrwymo i ddarparu prosiect a gwasanaethau sy’n dod â buddion lu i’r gymuned leol, drwy ddarparu cyfleusterau addysg sy’n ysbrydoli, ein gwaith cymunedol ochr yn ochr â’r rhaglen adeiladu a’n cyfraniad at yr economi leol drwy ddefnyddio gwasanaethau a chadwyni cyflenwi lleol.”

Dywedodd Christian Stanbury, Swyddog Prif Weithredwr, Partneriaeth Addysg Cymru:

“Dyma brosiect cyntaf y Bartneriaeth i gyrraedd terfyn ariannol a chychwyn ar y safle.  Bydd y prosiect hwn yn gosod meincnod ar gyfer darparu cyfleusterau addysg  yng Nghymru yn y dyfodol ac mae disgwyl iddo ddod â mwy na dim ond cyrhaeddiad academaidd i Sir y Fflint.

“Rydym yn falch o gael Robertson Construction North West yn rhan o’n tîm cryf sydd â’r gallu i greu lleoliad dysgu cwbl ryfeddol a fydd yn dod â buddion hirdymor ychwanegol trwy ei alluoedd gweithredu carbon sero net.  Mae Campws Mynydd Isa’n arwain y ffordd wrth ymdrin â phortffolio addysg Cymru’n wahanol, oll yn seiliedig ar gael effaith hirdymor yn y gymuned. Mae’n enghraifft dda hefyd o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth a chyfuno arbenigedd ein cadwyn gyflenwi, buddsoddwyr, yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru.”

Ar ôl llofnodi’r trawstiau gwahoddwyd y gwesteion i fynd ar daith VR drwy’r broses o adeiladu’r campws newydd cyffrous.

Yn yr wythnosau nesaf bydd holl ddisgyblion Ysgol Mynydd Isa ac Ysgol Uwchradd Argoed yn cael gwahoddiad i ddod i weld y safle a rhoi llofnod ar un o’r trawstiau dur fel bod eu henwau hwy, y disgyblion cyntaf yn yr ysgol newydd, ar gof a chadw am byth yng ngwead yr adeilad.

Mae’r campws deulawr newydd yn cael ei adeiladu ar safle presennol Ysgol Uwchradd Argoed a bydd yn cyflawni safon BREEAM rhagorol ac yn ddi-garbon net ar ôl agor. Bydd yn darparu rhaglen addysgol gynhwysfawr i ddisgyblion rhwng 3 ac 16 oed a bydd yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd yn dal i weithredu ar wahân o dan yr un to, mewn adeilad ag arwynebedd llawr o 10,507 metr sgwâr.

Bydd y disgyblion cyntaf yn dod i’r campws newydd ym mis Tachwedd 2024 a bydd yr holl waith wedi’i gwblhau erbyn mis Medi 2025 ar ôl dymchwel Ysgol Uwchradd Argoed a chreu caeau chwaraeon newydd. 

Signing group photo.jpg