Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Dal Carbon HyNet

Published: 19/04/2023

Gofynnir i aelodau Cabinet gymeradwyo Adroddiad Effaith Lleol y Cyngor ar gyfer Piblinell Carbon Deuocsid traws gwlad arfaethedig, yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth 25 Ebrill.

 

Mae Liverpool Bay Carbon Capture Storage Limited yn cynnig adeiladu a gosod piblinell carbon deuocsid newydd rhwng Ince, ger Stanlow, (Swydd Gaer) a’r Fflint, ac ail-bwrpasu piblinell nwy naturiol presennol rhwng y Fflint a Thalacre (‘Piblinell Cei Connah i’r Parlwr Du’).   

 

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi): 

 

“Mae’r broses gymeradwyo ar gyfer y Piblinell Carbon Deuocsid arfaethedig yn wahanol i gais cynllunio traddodiadol a geisir fel arfer o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref ac y byddai’r Awdurdod Cynllun Lleol yn ei benderfynu. Mae’r cais hwn wedi cael ei wneud o dan Ddeddf Cynllun 2008 ar gyfer caniatâd a enwir fel Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

 

Mae cais i adeiladu a gweithredu’r Piblinell Carbon Deuocsid arfaethedig wedi cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio (Lloegr) a fydd yn gweinyddu’r cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar ran Yr Ysgrifennydd Gwladol Busnes, ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

 

Mae gan yr Awdurdod Lleol rôl i gynhyrchu Adroddiad Effaith Lleol er mwyn llywio’r broses gwneud penderfyniad ac i gynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio (Lloer) i wneud argymhelliad i’r Gweinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol”.

 

Mae’r Adroddiad Effaith Lleol yn disgrifio effaith tebygol y Piblinell Carbon Deuocsid arfaethedig ar ddefnydd tir yn Sir y Fflint.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:

 

“Nid Sir y Fflint yw’r un sy’n gwneud penderfyniad o ran y Piblinell Carbon Deuocsid arfaethedig.  

 

Mae’r Adroddiad yn fater o ffaith ac wedi’i lunio yn seiliedig ar gyfuniad o effeithiau perthnasol ar ardaloedd yn y sir.  Mae copi o’r Adroddiad ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor”.

 

Mae’n ofynnol i Gyngor Sir y Fflint gyflwyno Adroddiad Effaith Lleol i’r Awdurdod Archwilio erbyn 26 Ebrill 2023.