Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahoddiad i Ffair Swyddi Sir y Fflint 

Published: 14/04/2023

Job Skills Eng Welsh A5 final 15.02.23 2.jpgYdych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant?

Dewch draw i Ffair Swyddi Sir y Fflint yng Nghei Connah i wella eich siawns o gael gwaith.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â busnesau lleol ynghyd gyda swyddi lleol, prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith i’r Ganolfan Ddinesig, Cei Connah ddydd Iau, 20 Ebrill 2023 rhwng 4pm a 7pm.    Byddant wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i swydd.

I weld pa gyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli sydd ar gael yn eich cymuned, ewch i’r ardal wirio CV a gwneud cais am swyddi yn y fan a’r lle yn yr orsaf ymgeisio. 

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at Canolfan Byd Gwaith flintshire.eateam@dwp.gov.uk neu cysylltwch â Janiene Davies ar 07770 632128 / Nia Parry ar 07770 633453 yn Cymunedau am Waith a Mwy.