Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


System Rhybuddion Argyfwng newydd yn cael ei phrofi'n genedlaethol ar 23 Ebrill 2023

Published: 12/04/2023

502311_National_EmergencyAlerts_StaticSocial_16x9_Bilingual (original).jpgMae system Rhybuddion Brys newydd llywodraeth y DU bellach yn fyw. Bydd y system yn ei gwneud hi'n bosibl cysylltu â phobl drwy eu ffôn symudol pan fo bywydau mewn perygl.

Bydd yn cael ei ddefnyddio i'ch rhybuddio os bydd argyfyngau, megis llifogydd difrifol.

Anfonir Rhybuddion Argyfwng i bob ffôn symudol cydnaws mewn ardal risg. Nid ydynt yn olrhain eich lleoliad, nid oes angen eich rhif ffôn, ac nid ydynt yn casglu data personol. Dim ond y llywodraeth a'r gwasanaethau brys fydd yn gallu eu hanfon. Os nad oes gennych ffôn symudol, byddwch yn dal i gael eich hysbysu trwy sianeli eraill.

 

Os cewch Rybudd Argyfwng ar eich ffôn, byddwch yn clywed sain uchel, tebyg i seiren. Bydd neges ar eich sgrin yn dweud wrthych am yr argyfwng a'r ffordd orau o ymateb. Byddwch yn gallu gwirio bod rhybudd yn ddilys yn Am Rybuddion Argyfwng - GOV.UK (gov.uk/alerts)

Os byddwch yn derbyn rhybudd, darllenwch y rhybudd yn ofalus a dilyn y cyfarwyddiadau.

Gallwch optio allan o dderbyn rhybuddion brys; am fwy o wybodaeth ar sut i optio allan ewch i Am Rybuddion Argyfwng - GOV.UK (gov.uk/alerts)

I ddysgu rhagor, neu wirio a yw rhybudd yn ddilys, ewch i gov.uk/alerts