Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arwerthiant llyfrau a mapiau yn Yr Hen Reithordy, Penarlâg

Published: 13/04/2023

Cynhelir arwerthiant llyfrau a mapiau yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC), Penarlâg ddydd Sadwrn 22 Ebrill 2023, rhwng 10am a 1pm. Yn dilyn gwaith tacluso, rydym wedi bod yn edrych faint o stoc o eitemau rydym wedi’u casglu dros ein 69 mlynedd yn yr Hen Reithordy ac rydym yn gwerthu rhai eitemau y mae gennym fwy nag un ohonynt, ac eitemau nad oes eu hangen arnom mwyach.

ARIAN PAROD YN UNIG! Dewch i bori: digonedd o lyfrau – nid hanes yn unig, ond diddordeb cyffredinol a rhywfaint o ffuglen; cardiau post o olygfeydd hanesyddol Sir y Fflint; mapiau OS hanesyddol gwreiddiol o’r 1870au i’r 1960au - efallai byddwch chi’n ddigon lwcus i ddod o hyd i un o’ch ty neu eich ardal leol! Bydd ambell beth arall ar werth gan gynnwys recordiau gramoffon a chylchgronau ysgol o ysgol breswyl fawreddog Lowther College, a oedd yng Nghastell Bodelwyddan.

Bydd ein gwirfoddolwyr gwych yn y stiwdio Gadwraeth yn arddangos sut maen nhw’n gwneud pecynnau unigryw i ddiogelu ein harchifau arbennig hefyd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni fel gwirfoddolwr, neu os hoffech chi weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud, dewch i’n gweld ni ar y diwrnod! Arddangosfeydd creu bocsys: 10.30am a 12pm.

Bydd te, coffi a chacennau ar werth felly dewch i bori, sgwrsio a mwynhau paned yn amgylchedd distaw’r Hen Reithordy!

 

Bydd yr elw’n mynd i’n cronfa roddion tuag at brynu rhagor o ddeunyddiau pecynnu diogel ar gyfer yr archifau arbennig – ARIAN PAROD YN UNIG os gwelwch yn dda.