Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy - Gwasanaeth Ffonio a Theithio

Published: 29/03/2023

Mae’r gwasanaeth Parcio a Theithio presennol ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn newid, a bydd yn cael ei ddisodli gan Wasanaeth Ffonio a Theithio mwy pwrpasol, y gellir ei drefnu ymlaen llaw, o ddydd Sadwrn, 1 Ebrill 2023.

Bydd y Gwasanaeth Ffonio a Theithio y gellir ei drefnu ymlaen llaw yn gweithredu o 06:00 i 18:00, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o Faes Parcio Cyngor Sir y Fflint ym Mharth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i weithleoedd o fewn Parth 2 a Pharth 3 y parc, ac yn dychwelyd.

Mae’n rhaid i deithwyr bellach drefnu eu siwrneiau ymlaen llaw, gydag o leiaf 48 awr o rybudd, a bydd ganddynt y dewis i drefnu siwrneiau hyd at bythefnos ar y tro.

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost at  school.transport@flintshire.gov.uk o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:30 a 16:30 neu drwy ffonio 01267 224923.

Dim ond teithwyr sydd wedi trefnu eu siwrnai ymlaen llaw a fydd yn cael teithio.