Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn Galw Holl Arwyr Sbwriel Sir y Fflint!

Published: 14/03/2023

Litter pick.jpgYmunwch â Gwanwyn Glân Cymru – 17 Mawrth i 2 Ebrill

Mae cymunedau yn Sir y Fflint yn cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2023 a helpu i godi’r sbwriel sy’n andwyo ein hamgylchedd lleol.  

Mae cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda’i gilydd maent yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill.

Ymgyrch y llynedd oedd y mwyaf erioed, gyda 17,000 o wirfoddolwyr anhygoel yn cymryd rhan mewn 364 o ddigwyddiadau glanhau ar draws y wlad. Gobaith Cadwch Gymru’n Daclus yw curo’r cyfanswm hwn er mwyn sicrhau mai 2023 yw eu hymgyrch glanhau mwyaf llwyddiannus erioed.

Meddai’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes: 

“Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau lleol gan fod sbwriel yn parhau i fod yn broblem ar yr amgylchedd.  

Rwy’n annog unrhyw un sydd am helpu i gymryd rhan yn yr ymgyrch a helpu i Gadw Sir y Fflint yn Daclus.  Gallwch rannu eich lluniau Gwanwyn Glân ar https://www.facebook.com/KeepFlintshireTidy i ysbrydoli eraill.”

“Mae ein neges eleni yn syml: gall hyd yn oed un bag wneud gwahaniaeth mawr. P’un ai eich bod yn dewis glanhau eich cymdogaeth chi, eich hoff draeth, parc neu fan prydferth – mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei symud o’r amgylchedd naturiol yn bwysig. 

“Mae codi sbwriel yn weithgaredd hwyliog hefyd, sydd am ddim ac yn gallu bod o fudd i’ch iechyd, eich lles a’ch ymdeimlad o falchder yn eich cymuned. Felly ewch i nôl codwr sbwriel, ewch allan i’r awyr agored a dangos cariad tuag at Gymru y gwanwyn hwn.”

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Caru Cymru – menter fwyaf erioed Cadwch Gymru’n Daclus i ddileu sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: 

www.keepwalestidy.cymru

Neu cysylltwch â’n swyddogion Gwasanaethau Stryd drwy anfon e-bost at: keepflintshiretidy@flintshire.gov.uk