Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid yn helpu i droi’r llanw ar gyfer bywyd gwyllt yn Sir y Fflint

Published: 07/03/2023

Connah's Quay Dock 6.jpgMae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cyngor Sir y Fflint yn cael £19,215 o Gronfa Capasiti Arfordirol Llywodraeth Cymru.  

Bydd y cyllid yn annog grwpiau i gydweithio ar brosiectau, a dau faes blaenoriaeth y gronfa yw Adferiad Natur a Thwf Cynaliadwy, gan gefnogi adferiad natur drwy wella amgylchedd yr arfordir.   Mae hefyd yn canolbwyntio ar ymgysylltu gyda chymunedau lleol i hyrwyddo cynnyrch lleol a chefnogi cadwynni cyflenwi byr, a gweithio gyda physgotwyr lleol, sector twristiaeth a gwasanaethau cefn gwlad, i gefnogi ac amddiffyn bioamrywiaeth. 

Roedd y cyllid ar gael drwy’r Bartneriaeth Natur Lleol a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gwaith cynllunio ac ymchwilio i gynigion goleuadau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ar gyfer Arfordir Gogledd Cymru, Dociau Cei Connah ac adeiladu cysylltiadau cymunedol arfordirol.   Mae’r prosiect yn astudiaeth beilot a bydd asesiad o gynefinoedd amgylcheddol hefyd yn cael ei gynnal gan arbenigwyr amgylcheddol Sir y Fflint, Atmos Consulting - fe fydd hyn yn cefnogi datblygiad y cynllun.  Fe fydd Sir y Fflint hefyd yn cynnal ymgynghoriad ynglyn â golau ‘Awyr Dywyll’, a’r gobaith yw y gallai’r cynllun arwain at geisiadau pellach am gyllid ac ailosod y goleuadau stryd presennol sy’n heneiddio gyda chynllun gwell, llai o ôl-troed carbon a golau gwell ar gyfer yr ardal.

Fe fydd canfyddiadau’r prosiect yn cael eu rhannu gyda sefydliadau partner eraill ac fe allai ddylanwadu ar ardaloedd eraill ar hyd arfordir Sir y Fflint.   

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Yn sgil y cyllid, mae gennym ni gyfle i ymgysylltu gyda grwpiau cerdded lleol, grwpiau cymunedol a chynulleidfa ehangach ar-lein - drwy’r ffilmiau.  Mae hi’n hanfodol fod pobl yn gwybod am y bywyd gwyllt sydd ar eu stepen drws a sut y gallant fynd ar-lein i gofnodi’r hyn maent wedi’i weld.  Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o hyrwyddo pwysigrwydd bywyd gwyllt lleol ac eisiau manteisio ar gyfleoedd y grantiau hyn i gefnogi gwella’r Arfordir i bobl a bywyd gwyllt.”

Dywedodd Darell Jones, Rheolwr Goleuadau Stryd Sir y Fflint:

“Gan i mi dyfu fyny mewn cymuned arfordirol, rydw i’n deall pwysigrwydd yr amgylchedd morol, a sut mae goleuadau yn effeithio ar hyn.  Dyna pam roedd hyn yn un o fy mhrif flaenoriaethau pan gawsom ni’r cyfle i ymgeisio am y cyllid.  Gobeithio y bydd yn ei dro yn dylanwadu ar geisiadau yn y dyfodol am welliannau ffisegol a sefydlu cynllun yn yr ardal, yn seiliedig ar y glasbrint arfaethedig.”

Connah's Quay Dock 15.jpgEr mwyn adeiladu ar gysylltiadau drwy’r gymuned arfordirol, bydd cyfres o 6 ffilm fer yn cael eu cynhyrchu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol gan gwmni lleol, Film Cafe, a fydd yn sôn am dwristiaeth bywyd gwyllt, pysgota cynaliadwy a darpariaeth bwyd lleol.   

Dywedodd Robbie Davison o’r cwmni darparu cig ‘Well-Fed’:

“Mae bwyd ffres bob amser yn blasu’n well, ac mae’n wych bod y cyllid yma’n rhoi cyfle i ni gysylltu gyda physgotwyr lleol wrth i edrych i ddatblygu cadwynni cyflenwi byrrach.   Os allwn ni brynu yn uniongyrchol gan bysgotwyr lleol, fe fydd yn helpu i ni wella ein prydau wrth i ni fwydo preswylwyr Sir y Fflint gyda’r bwyd gorau posibl." 

Tra bod gan Gei Connah boblogaeth fawr, nid oes gan bawb yn y gymuned gysylltiad gyda’r arfordir yno ac mae’r cyllid wedi bod yn ‘gam cyntaf’ hanfodol tuag at godi ymwybyddiaeth, ac annog pobl i ymweld, i gerdded, i feicio ac ymweld â’r caffis lleol.  

https://www.llyw.cymru/cyhoeddi-cynllun-cyllido-3m-ar-gyfer-prosiectau-morol-pysgodfeydd-dyframaethu

https://www.cancook.co.uk/

https://atmosconsulting.com/

http://filmcafe.co.uk/