Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Growth Track 360 yn ceisio cefnogaeth gan seneddwyr y DU ar gyfer ‘Cludiant Carbon Isel’ i hybu trawsnewid Rhanbarth Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Dinas Lerpwl yn ‘Economi Carbon Isel’

Published: 06/03/2023

Growth track 360.jpgWrth i Ganghellor Trysorlys y DU, Jeremy Hunt AS, baratoi ei ddatganiad Cyllideb i’w gyhoeddi ar 15 Mawrth, mae arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol yn y bartneriaeth Growth Track 360 wedi galw wyneb yn wyneb yn Senedd y DU am fuddsoddiad sylweddol yn y rheilffyrdd er mwyn trawsnewid economi’r rhanbarth trawsffiniol sy’n cynnwys Rhanbarth Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Dinas Lerpwl.

Mae Growth Track 360, mewn nifer o geisiadau i Lywodraeth y DU, wedi cyflwyno’r achos dros dri phrosiect allweddol o’r blaen:

  1. Trawsnewidiad Wrecsam i Lerpwl: Teithio’r Unfed Ganrif ar Hugain mewn Coridor o Ddiwydiannau o Safon Fyd-eang;
  2. Prif Lein Arfordir Gogledd Cymru: Datblygu Ynni Carbon Isel ac Ehangu Twristiaeth Dramor ac ym Mhrydain yn Gynaliadwy mewn Ardal o Harddwch Eithriadol; a
  3. Moderneiddio Gorsaf Caer: Porth Milflwyddol ar gyfer Dinas y Milenia.

Er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn natblygiad achos busnes y buddsoddiadau hanfodol hyn gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail, nid oes cyllid cyfalaf wedi ei ddyrannu’n ffurfiol eto.

Mewn cyflwyniad i Aelodau Seneddol a Thy’r Arglwyddi yn nau Dy’r Senedd, nododd Growth Track 360 fod rhanbarth ehangach Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnal 63,000 o swyddi gweithgynhyrchu, yn cynhyrchu £11.4 biliwn mewn allforion yn flynyddol, ac yn croesawu 77.6 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae’n parhau i fod yn llawer rhy ddibynnol ar gludiant ar y ffyrdd ar gyfer pobl a nwyddau, sy’n uchel mewn allyriadau.

Gan gymell seneddwyr i bwyso ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi yn ei dri phrosiect allweddol presennol, cyfeiriodd Growth Track 360 hefyd at y cyfleoedd am lawer mwy o gysylltedd rheilffordd ar gyfer Caer a gogledd Cymru a fydd yn dod yn ddichonadwy pan fydd HS2 yn cyrraedd Crewe. Gofynnodd GT360 i Aelodau Seneddol ac Arglwyddi’r rhanbarth i wneud popeth y gallant i gael buddsoddiad yn Crewe ar gyfer cyfnewidfa well i deithwyr ar gyfer gwasanaethau aml HS2. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chadeirydd Growth Track 360, y Cynghorydd Louise Gittins:

“Mae gan y DU bob cyfle i fod yn un o genhedloedd arweiniol y byd yn y newid i Sero Net, ac mae llawer o’r prif ddiwydiannau galluogi wedi eu lleoli yma yn rhanbarth trawsffiniol Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy.  I roi terfyn ar y tagfeydd yn ein system gludiant leol a chynyddu cysylltedd gyda gweddill y DU ac economi ehangach y byd, mae’n bryd i Lywodraeth y DU symud ymlaen gyda’r buddsoddiad sydd ei angen yn y rheilffyrdd.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Is-gadeirydd Growth Track 360, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Yn y digwyddiad heddiw yn San Steffan, canfu arweinwyr dinesig ac arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru a chymunedau cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr fod ein gweledigaeth yn cael ei rannu fwyfwy ymysg prif bleidiau gwleidyddol y DU drwyddynt draw.  Yr ydym angen i Lywodraeth y DU ein cynorthwyo i weithredu’r weledigaeth honno ’rwan.”

Dywedodd Cynrychiolydd Busnes o Growth Track 360, Ashley Rogers, Prif Weithredwr Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy:

“Mae Growth Track 360 yn cynrychioli ein heconomi drawsffiniol fodern a bywiog sydd â busnesau diwydiannol eiconig a chyrchfannau twristiaeth o’r radd flaenaf.  Mae buddsoddiad yn y rheilffyrdd wedi ei gyfuno gyda gwelliannau bysiau a theithio llesol yn elfennau hanfodol ar gyfer lleihau tagfeydd a datgloi twf economaidd cyflymach gyda chyflogaeth gyflog uchel, gan hefyd gyrraedd targedau Di-garbon Net.”