Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi stop ar werthiant e-sigaréts i bobl o dan 18 oed

Published: 28/02/2023

Vape small.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn rhybuddio siopau sy’n gwerthu cynnyrch e-sigaréts bod eu gwerthu i bobl o dan 18 oed yn erbyn y gyfraith. 

Mae e-sigaréts a’r cynnych cysylltiedig wedi’u rheoli gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaeth a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a rhaid cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar gapasiti tanciau a chryfder nicotin, ac yn ogystal mae’n rhaid i’w labeli ddangos manylion y gwneuthurwr a rhybuddion iechyd.  Gallai methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn arwain at erlyniad.

Mae swyddogion Safonau Masnach wedi gweld cynnydd enfawr mewn gwerthiant cynnyrch e-sigaréts anghyfreithlon dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwerth miloedd o bunnoedd o e-sigarets ffug wedi’u hatafaelu gan swyddogion dros y misoedd diwethaf ar draws Sir y Fflint.

Roedd llawer iawn o’r eitemau a atafaelwyd yn torri’r rheoliadau. Roedd yna hefyd bryderon bod rhai e-sigaréts defnydd unwaith yn unig wedi’u dylunio’n arbennig i apelio at blant a phobl ifanc, gyda’r pecynnau a’r blas yn efelychu fferins poblogaidd fel Skittles a’r prisiau’n amrywio o £4 i £8, sef prisiau arian poced.

Mae timau Safonau Masnach ar draws Cymru a Lloegr wedi gweld cynnydd sylweddol mewn adroddiadau am werthiannau e-sigaréts i bobl dan oed yn ystod 2022 a dechrau 2023.  Mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud yn bennaf â gwerthiant e-sigaréts defnydd unwaith yn unig, neu ‘vapes’.

Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan rieni pryderus, ysgolion ac aelodau o’r cyhoedd i adnabod manwerthwyr y credir eu bod wedi gwerthu eitemau â chyfyngiadau oed i blant a phobl ifanc o dan 18 oed.  Rydym yn cynnal pryniannau prawf gyda chymorth gwirfoddolwyr ifanc yn rheolaidd, i brofi manwerthwyr a sicrhau eu bod yn cadw at y gyfraith ac yn diogelu plant rhag niwed.  Mewn ymgyrchoedd pryniannau prawf diweddar gwerthodd dau fanwerthwr e-sigaréts i blant ac mae’r achosion hyn yn cael eu hymchwilio ar hyn o bryd.  Gallai’r manwerthwyr wynebu dirwy o hyd at £2,500.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Er ein bod yn sylweddoli bod e- sigaréts yn ddefnyddiol i helpu pobl i roi’r gorau i ‘smygu, rydym yn bryderus ynghylch achosion o dor-cyfraith gyda llawer o ddyfeisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol yn cael eu gwerthu o siopau yn Sir y Fflint. Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gwneud gwaith hollbwysig wrth fynd ati i ddod o hyd i e-sigaréts anghyfreithlon a hefyd rwystro eu gwerthiant gan fanwerthwyr digydwybod i bobl ifanc heb ofyn am y prawf angenrheidiol o’u hoedran. Mae’n bwysig bod cynnyrch e-sigaréts yn cydymffurfio â’r rheolau a sefydlwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a sicrhau nad ydynt yn cyrraedd dwylo plant.

“Mae ein swyddogion wedi darganfod dro ar ôl tro wrth gyflawni eu dyletswyddau bod eitemau â chyfyngiadau oed fel tybaco, sigarets, e-sigaréts a thân gwyllt yn cael eu gwerthu i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Ond ar hyn o bryd rydym yn derbyn gwybodaeth ddibynadwy bod yr e-sigaréts defnydd unwaith yn unig hyn yn cael eu gwerthu i blant mor ifanc a 12 a 13 oed.  Mae diogelwch, iechyd a lles ein cymunedau yn flaenoriaeth uchel i ni ac mae diogelu ein pobl ifanc a’r rhai mwyaf diamddiffyn yn rhan hanfodol o hyn."

I roi gwybod am werthiant cynnyrch e-sigaréts i bobl dan oed, neu os ydych yn fanwerthwr sydd eisiau mwy o eglurhad ar y gyfraith, cysylltwch â Safonau Masnach drwy Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 am wasanaeth Cymraeg neu 0808 223 1133 am wasanaeth Saesneg.  Neu cysylltwch â Safonau Masnach Sir y Fflint ar e-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk