Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb

Published: 17/02/2023

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ddydd Iau, 23 Chwefror, i wneud argymhellion terfynol ynglyn â phennu cyllideb gytbwys a lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.  Cyflwynir yr argymhellion yng nghyfarfod y Cyngor llawn yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol.

Mae’n rhaid i bob Cyngor bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn.  Gan ei fod yn gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid – wedi ei osod yn 20fed o’r 22 cyngor yng Nghymru – mae Sir y Fflint wedi bod yn arbennig o agored i effeithiau cyni ers 2008.  Er gwaethaf hyn, mae Sir y Fflint wedi gostwng ei wariant o £100 miliwn dros y 14 blynedd ddiwethaf.

Eleni derbyniodd y Cyngor fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn £19.5 miliwn ar gyfer Sir y Fflint.

Er bod hyn yn newyddion da ar gyfer 2023/24, ac yn cyfrannu rhywfaint tuag at bontio’r gofyniad o £37 miliwn yng nghyllideb y Cyngor, mae’n rhaid i ni barhau gyda’n dull gweithredu o reolaeth ariannol gref gan fod rhaid i ni bennu cyllideb gytbwys a chyfreithlon, ac nid ydym yn gwybod pa heriau fyddwn yn eu hwynebu yn 2024/25.

Mae’r cynnydd yn y cyllid, er ei fod yn cael ei groesawu, yn gorfod cystadlu gyda’r pwysau cyllidebol ychwanegol mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Mae’r rhan fwyaf o’r pwysau yma y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, yn cynnwys:

  • Mae’n rhaid i ddyfarniadau cyflog (i athrawon a rhai nad ydynt yn athrawon) gael eu hariannu gan gynghorau lleol;
  • Fel pob awdurdod lleol, mae’r Cyngor yn parhau i brofi galw uchel, sy’n cynyddu, am lety dros dro;
  • Mae’r pwysau ariannol eraill yn cynnwys: cludiant i ysgolion a lleoliadau y tu allan i’r sir ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.  

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai unrhyw gynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor fod yn 5% neu lai.  

Gan ystyried hyn i gyd, mae’n golygu bod gofyniad cyllidebol ychwanegol neu fwlch o £37 miliwn. Mae angen cynnydd blynyddol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer holl wasanaethau’r Cyngor, gyda 0.96% ychwanegol ei angen i ddiwallu cost cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 4.95% ac yn darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o £5.622 miliwn yn 2023/24.

Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd blynyddol o £71.75 y flwyddyn ac yn dod â’r swm i £1,521.33 ar Fand D cyfatebol (yn cyfateb i £1.38 yr wythnos).

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cyflwyno cyllideb gytbwys ac yn cynnal gwasanaethau’r Cyngor.  Rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol mae pob aelwyd yn eu hwynebu, ac felly rydym wedi cadw’r elfen o Dreth y Cyngor sy’n ymwneud â gwasanaethau’r Cyngor i 3.99%. Wrth edrych ar gyrff ardoll eraill, mae’r lefel gyffredinol yn 4.95%.”  

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael y Cyngor:

“Er bod y dyraniad uwch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 yn cael ei groesawu, mae heriau sylweddol yn dal i fod o ran diwallu’r cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer y gweithlu a chostau eraill. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gallu argymell sefyllfa gyllidebol gytbwys i’r Cyngor gan hefyd gadw’r cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor mor isel â phosibl.  Rydym yn gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid, sy’n gwneud defnydd effeithlon o’n hadnoddau – fel y cadarnheir yn rheolaidd gan ein rheoleiddiwr ariannol Archwilio Cymru.”

Budget and council services - Cymraeg Feb 2023small.jpg