Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiadau Gwybodaeth i’r Cyhoedd am y Terfynau Cyflymder 20mya ym Mwcle

Published: 10/02/2023

20mph Public Information Events Web Banner.jpgHoffai Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd ynglyn â’r terfynau cyflymder 20mya ym Mwcle, a gynhaliwyd rhwng 25 Ionawr a 9 Chwefror 2023. 

Mae deuddeg mis wedi mynd heibio bellach ers cyflwyno’r terfynau 20mya ym Mwcle Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami fel rhan o dreialon Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth newydd a ddaw i rym yng Nghymru ar 17 Medi 2023.  

Roedd cyfle i 475 o bobl gymryd rhan mewn 15 o sesiynau, a bu 127 o bobl yn bresennol i gyd. Ymhob sesiwn cafodd pobl leol wybodaeth am ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau 20mya a sut y dylid cymhwyso’r ddeddfwriaeth i’r ffyrdd lleol, ac fe’u gwahoddwyd i sôn am eu profiadau o’r drefn newydd ym Mwcle.  

Anfonwyd llythyr i 9,426 o aelwydydd yn y parthau 20mya tua diwedd y llynedd yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Cafwyd 2,712 o ymatebion.  Bydd yr hyn a fynegwyd yn y sesiynau gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i ganlyniadau’r arolwg ar-lein a bydd yn hwyluso adolygiad y Cyngor o ffyrdd lleol.  Bydd y Cyngor yn dal ati i asesu ffyrdd lleol (os oes angen) yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer eithriadau.  Rhennir y sylwadau o’r sesiynau gwybodaeth a chanlyniadau’r arolwg â Llywodraeth Cymru hefyd i gynorthwyo â chyflwyno’r terfyn 20my yn genedlaethol.    

Cyhoeddir canlyniadau’r arolwg a’r adolygiad ar wefan y Cyngor ac yng Nghanolfan Bwcle yn Cysylltu cyn diwedd mis Mawrth 2023.