Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint - Gwaith i Roi Wyneb Newydd ar Briffyrdd

Published: 01/02/2023

Road+Closed+graphic Twitter (1).jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi'i sicrhau i gynnal y gwaith o roi wyneb newydd ar briffyrdd mewn nifer o safleoedd ledled y Sir.  Mae’r manylion o ran rheoli traffig, y dyddiadau a’r amseroedd fel a ganlyn:

Ffordd y Rhos, Treuddyn (o’r fynwent i Ffordd y Llan)
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Llun 6 Chwefror am 1 wythnos. Rheoli Traffig - Bydd y ffordd ar gau rhwng 09:00 a 17:00 o’r gloch. 

Englefield Avenue, Cei Connah (rhan)
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Llun 6 Chwefror am bythefnos. Rheoli Traffig - Bydd y ffordd ar gau rhwng 08:30 a 17:00 o’r gloch.

Llwyni Drive, Cei Connah
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Mawrth 7 Chwefror am bythefnos.  Rheoli Traffig - Bydd y ffordd ar gau rhwng 09:30 a 17:00 o’r gloch.

Ffordd y Pentref Berthengam (rhan)
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Mercher 22 Chwefror am bythefnos - Bydd y ffordd ar gau rhwng 09:30 a 17:00 o’r gloch.

Ffordd Pen y Maes, Treffynnon (o gyffordd yr A5026 a Strand Park)
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Llun 27 Chwefror am 1 wythnos - Bydd y ffordd ar gau rhwng 09:00 a 17:00 o’r gloch.

B5444 Rhan Uchaf y Stryd Fawr, yr Wyddgrug
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Mawrth 28 Chwefror am 1 wythnos - Bydd y ffordd ar gau rhwng 19:00 a 01:00 o’r gloch (gweithio yn ystod y nos).

Stryd Tyddyn a Stryd Grosvenor, yr Wyddgrug
Mae’r gwaith yn dechrau ddydd Iau 2 Mawrth am 1 wythnos - Bydd y ffordd ar gau rhwng 09:30 a 17:00 o’r gloch.

 

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd y ffyrdd ar gau ynghyd â llwybr gwyro ag arwyddion ar waith er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd. 

Bydd y contractwr yn gwneud pob ymdrech i gadw at y dyddiau a’r amser a roddwyd, ond mae’n bosibl y bydd angen amrywio’r rhain os yw’r tywydd yn wael neu os yw’r amgylchiadau’n anffafriol.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a’r contractwr penodedig sef Tarmac Trading Ltd yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu darfu a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.