Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prydau ysgol am ddim yn ystod y streic

Published: 27/01/2023

school meals small.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu y bydd disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (ar sail budd-daliadau/incwm yn unig – nid y ddarpariaeth gyffredinol) yn derbyn taliad uniongyrchol os yw eu dosbarth neu eu hysgol ar gau oherwydd streic yr Undeb Addysg Cenedlaethol. 

Bydd taliad o £3.90 fesul plentyn yn cael ei wneud yn awtomatig ar gyfer pob diwrnod streic.   Does dim rhaid i rieni wneud cais nac unrhyw beth arall.  Bydd rhieni yn derbyn y taliad yn ôl-weithredol, unwaith y byddwn yn gwybod pa ysgolion sy’n cau/cau’n rhannol. 

Ni fydd taliad yn cael ei wneud ar gyfer disgyblion yr ysgolion hynny sydd ar agor yn gyfan gwbl na’r rheiny sy’n mynd i ysgol sydd ar agor yn rhannol.