Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Ffordd - Llwybr Beiciau Brychdyn

Published: 26/01/2023

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi cael cyllid Grant Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu gwelliannau teithio Llesol a Chynaliadwy y mae mawr eu hangen yn ardal Saltney a Brychdyn. 

Nod y cynigion yw gwella hyfywedd siwrneiau Teithio Llesol a Chynaliadwy ar hyd yr A5104. Bydd y cynllun yn darparu troedffordd/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd. Bydd y cyfleuster yn cysylltu â'r llwybr a rennir rhwng Brychdyn a Saltney Ferry a gwblhawyd yn ddiweddar ac yn parhau i Sandy Lane ac i’r llwybr beicio presennol. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys uwchraddio'r groesfan bresennol i gerddwyr i Groesfan Twcan yn ogystal â gwneud gwelliannau angenrheidiol i'r briffordd.

Bydd y gwaith ar yr A5104 yn dechrau ddydd Llun, 30 Ionawr 2023 am gyfnod o tua 10 wythnos. Bydd rheolaeth traffig ar waith trwy gydol y cyfnod hwn a bydd mynediad i drigolion, busnesau lleol a’r cyhoedd sy'n teithio ar gael drwy’r amser.  

Hoffai Cyngor Sir y Fflint achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod o waith sydd i ddod a fydd yn galluogi cyflawni gwelliannau y mae mawr eu hangen er budd y gymuned leol.