Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfiawnder Cymunedol wedi’i ariannu drwy Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref

Published: 23/01/2023

Mae Theatr Clwyd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ar draws y gogledd ers deng mlynedd a mwy, gyda’i gweithdy perfformio rhyngweithiol sy’n edrych ar ganlyniadau Ymddygiad Troseddol ymhlith pobl ifanc.

Gyda chefnogaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel, sm y tro cyntaf yn ei hanes, fis Chwefror yma bydd cyfle i bobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed a’u rhieni/gofalwyr o Gei Connah, Shotton, Queensferry a Sealand gymryd rhan yn y gweithdy gyda’i gilydd, ynghyd â phartneriaid o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Sorted Sir y Fflint, Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint ac Aura.

Gyda’i gilydd byddant yn dilyn hynt a helynt dyn ifanc, sy’n raddol yn canfod ei hun yn y criw anghywir ac ar ochr anghywir y gyfraith. 

Gan weithio gyda hwyluswyr, actorion proffesiynol a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint byddant yn dysgu sut mae’r system gyfiawnder troseddol yn gweithio mewn perthynas â phobl ifanc, yn archwilio’r dewisiadau a’r dangosyddion o ran ein troseddwr ifanc ac yn edrych ar effaith ehangach ymddygiad gwrthgymdeithasol – ar yr unigolyn yn ogystal â’r teulu a’r gymuned ehangach. Mi fydd yna hefyd gyfle i gwestiynu a thrafod amgylchiadau’r drosedd, a gyda’n gilydd byddwn yn edrych ar y rhesymau dros yr ymddygiad a darganfod datrysiadau.  

Ar ôl y gweithdy, bydd Aura yn hwyluso nifer o weithgareddau chwaraeon i gyfranogwyr gymryd rhan ynddyn nhw, a bydd lluniaeth ar gael.  

Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal:

Dydd Llun 20 Chwefror 2023 Clwb Ieuenctid Cei Connah 1.30pm – 4pm 

Dydd Llun 20 Chwefror 2023 Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy 5.30pm – 8pm 

Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 Clwb Ieuenctid Sealand 1.30pm – 4pm 

Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 Clwb Ieuenctid Sealand 5.30pm – 8pm

Dydd Iau 23 Chwefror 2023 Ty Calon 1.30pm – 4pm

Cofiwch archebu lle gan fod llefydd yn brin.  Archebwch eich lle drwy: 

https://bookwhen.com/aurasportdevelopment

Mae Strydoedd Mwy Diogel yn rhaglen £75 miliwn gan y Swyddfa Gartref sy’n annog Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i wneud cais am fuddsoddiad ar gyfer mentrau i atal troseddau cymdogaeth.

Community Justice Press Release Footer logos (002).jpg