Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun cymorth tanwydd gaeaf

Published: 12/01/2023

Money small.jpgMae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru yn rhan o becyn cymorth i fynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw. 

Gall aelwydydd cymwys hawlio un taliad o £200 gan Gyngor Sir y Fflint i roi cymorth i dalu biliau tanwydd y gaeaf. 

Mae’r taliad hwn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU ac mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf fel arfer yn cael ei dalu i bensiynwyr.   Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys (un taliad fesul aelwyd) ni waeth sut maen nhw’n talu am eu tanwydd, boed hynny er enghraifft ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter, a gellir ei hawlio ni waeth a ydyn nhw’n defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi ar y grid. 

Mae’r cynllun ar gael i aelwydydd y mae’r unigolyn sy’n gwneud cais neu ei bartner yn cael budd-daliadau lles oedran gwaith sy’n dibynnu ar brawf modd (unrhyw bryd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023) yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i:  

  • Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gofalwyr
  • Credydau Treth neu
  • Y rhan fwyaf o Fudd-daliadau Anabledd

Gwiriwch yma am ragor o fudd-daliadau sy'n gymwys.

Y ffordd gyflymaf o gyflwyno cais yw drwy wneud cais ar wefan Cyngor Sir y Fflint. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth sylfaenol i gefnogi’r cais ynghyd â rhoi manylion er mwyn bod modd gwneud y taliad i chi drwy BACS.   

Mae’n rhaid cyflwyno pob cais cyn 5pm ar 28 Chwefror 2023.

Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud erbyn diwedd Mawrth 2023.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Winterfuelsupport@flintshire.gov.uk

Efallai eich bod chi’n dal i wynebu caledi ariannol difrifol. Os felly, efallai y byddwch chi’n dymuno cyflwyno cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol https://www.llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf