Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yw’r Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i lansio Banc Data

Published: 12/01/2023

FLINTSHIRE CONNECTS LOGO.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Sefydliad Good Things i sicrhau bod trigolion ar incymau isel yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy’r Banc Data Cenedlaethol. 

Mae cardiau SIM a thalebau data am ddim ar gael o'n pum Canolfan Gysylltu* i drigolion cymwys, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymddiriedaeth.  Mae’r data wedi’i ddarparu am ddim gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.  

Mae Sefydliad Good Things yn elusen sy’n helpu pobl i wella eu bywydau yn ddigidol ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:

“Trwy ddarparu cardiau SIM gyda data am ddim i aelwydydd incwm isel, byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn ein byd digidol datblygedig. Mae’r timau yn ein Canolfannau Cysylltu ar gael i gefnogi trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen ein help i gysylltu â ni.”

Fel rhan o weledigaeth ddigidol y Cyngor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl i gysylltu ar-lein, gan helpu trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd, cysylltedd data a theclynnau, er mwyn llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Tystiolaeth ac Ymgysylltu o Sefydliad Good Things, Emma Stone: 

“Rydym yn falch iawn bod Sir y Fflint wedi ymuno â’n rhwydwaith a’r Banc Data Cenedlaethol. Fel partner balch i Cwmpas a Chymunedau Digidol Cymru - gobeithiwn y bydd mwy o gynghorau a sefydliadau cymunedol yn dilyn esiampl Sir y Fflint ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi data a llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.”  

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y Banc Data Cenedlaethol a Sefydliad Good Things yma.  

Am wybodaeth am y Banc Data gallwch gysylltu â’ch Canolfan Gysylltu leol yma.

*Bwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug