Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon

Published: 04/01/2023

Cafodd dros 250,000 o sigaréts anghyfreithlon a 20Kg o dybaco rholio anghyfreithlon (digon i 20,000 o sigaréts rholio) eu synhwyro a’u meddiannu y mis diwethaf o siopau a lleoliadau storio ar ôl cyrchoedd ar draws Gogledd Cymru, yn cynnwys y Fflint, Cei Connah, Bangor, y Rhyl, Caernarfon a Bae Colwyn.

b1.jpgBu Swyddogion o’r Safonau Masnach, Gorfodaeth Mewnfudo, y Swyddfa Eiddo Deallusol a Heddlu Gogledd Cymru’n rhan o’r cyrchoedd wedi’u cefnogi gan Billy, y ci synhwyro tybaco o WagtailUK.

Dywedodd Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol ar Dybaco o Safonau Masnach Cymru: 

“Mae ysmygu’n lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn a bydd bron i hanner yr holl ysmygwyr tymor hir yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’w harferiad. Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts neu dybaco rholio sydd wedi’i smyglo a lle nad oes unrhyw dollau wedi’u talu arno. Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu cael ei werthu am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon yn yr economi anffurfiol, sy’n creu problem sylweddol yn ein cymunedau. Mae’n ei gwneud yn llawer haws i blant gael tybaco a chreu dibyniaeth ar hyd eu hoes ac mae’n ei gwneud yn llawer mwy anodd i rai sy’n ysmygu roi’r gorau iddi.

“Mae canlyniadau’r cyrchoedd yma’n dangos pa mor effeithiol mae gweithrediadau ar y cyd yn gallu bod. Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei ddosbarthu a’i gyflenwi drwy rwydweithiau trosedd trefnedig – mae hyn yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac mae’n dod â throsedd i’n cymunedau lleol.

“Yn ogystal â’r cyfeintiau mawr o dybaco anghyfreithlon a gipiwyd, fe wnaeth swyddogion hefyd feddiannu gwerth £20,000 o sigaréts electronig anghyfreithlon ynghyd â rhywfaint o bersawr ffug.”

Mae dau eiddo wedi’u cau ac un unigolyn wedi’i arestio. Mae’r ymchwiliadau’n parhau.

Mae tybaco anghyfreithlon yn niweidio cymunedau fel eich un chi. Os ydych chi’n gwybod unrhyw beth am sigaréts amheus yn eich ardal, rydym ni eisiau gwybod. Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol ar DIM ESGUS -- BYTH.

 b6.jpg