Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffliw Adar

Published: 23/12/2022

Chickens.jpgYn dilyn cwblhau gweithgareddau rheoli clefydau yn llwyddiannus yn y parth, mae'r Parth Monitro Adar Caeth bellach wedi'i godi.

Daw’r dirymiad hwn i rym o 17:00 ar 20 Rhagfyr 2022, a thrwy hynny ddod â’r mesurau a osodwyd yn y Parth Adar Caeth (Monitro) 3 cilometr ar gyfeirnod grid SJ3031163901 i ben, a ddatganwyd am 21.00 ar 7 Tachwedd 2022.

Daw mesurau newydd i rym yng Nghymru ar 2 Rhagfyr i gadw pob dofednod ac aderyn caeth dan do er mwyn atal ffliw adar rhag lledaenu. Mae’n rhaid i bob ceidwad adar yng Nghymru gadw eu hadar dan do neu fel arall wedi’u gwahanu rhag adar gwyllt.