Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tynnu coed sydd wedi syrthio a llystyfiant Pont y Ffrwd, B5102 Ffordd y Ffrwd, Cefn-y-bedd

Published: 19/12/2022

Road+Closed+graphic Twitter.jpgEr mwyn caniatáu ar gyfer gwaith clirio coed, bydd y B5102 ar gau i draffig wrth Bont y Ffrwd am y cyfnodau canlynol:

  • Dydd Mercher 21 Rhagfyr 07:00 tan 17:00
    Dydd Iau 22 Rhagfyr 07:00 tan 17:00

Yn ystod y cyfnodau hyn bydd llwybr dargyfeirio yn weithredol, sef y B5101 Ffrith, Llanfynydd, A5104 Pontybodkin a A541 Ffordd yr Wyddgrug.

Bydd y ffordd ar gau i sicrhau diogelwch y gweithlu sydd wrthi’n gwneud y gwaith a defnyddwyr y briffordd.

Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith hwn, a’ch sicrhau y byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i wneud yn siwr ein bod yn amharu cyn lleied ag y gallwn arnoch chi.