Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Chwalu’r Prinder Sgiliau 

Published: 15/12/2022

Cynhaliwyd cynhadledd o’r enw “Chwalu’r Prinder Sgiliau” ar 28 Hydref yng Ngholeg Cambria i lansio prosiect peilot yn Sir y Fflint i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl a mynd i’r afael â’r prinder sgiliau a’r problemau recriwtio sy’n cael effaith ar fusnesau sy’n gweithredu’n lleol.  

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu camau cychwynnol y prosiect peilot gyda Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy a phartneriaid eraill megis Hft a thîm Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu.  

Trefnodd y Cyngor a Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy y digwyddiad hwn ar y cyd, ac roedd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, yn bresennol, a siaradodd y ddau o blaid y fenter newydd.  Siaradodd y Cynghorydd David Healey, yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi yn y digwyddiad hefyd. 

Meddai’r Cynghorydd Jones: 

“Roedd yn bleser mynychu’r digwyddiad hwn i ddangos cefnogaeth y Cyngor ar gyfer y prosiect gwych hwn.   Rydym yn ymrwymo’n llwyr i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl ag anableddau dysgu ac mae cyflogaeth a gefnogir yn flaenoriaeth allweddol.   Mae pawb yn haeddu cael yr un cyfleoedd - ennill cyflog, byw yn annibynnol a datblygu cyfeillgarwch.  

“Mae gennym gymuned fusnes gefnogol yn Sir y Fflint ac mae cyfle gwych i’r busnesau hynny a oedd yn bresennol heddiw fod yn rhan o Project Search yn Sir y Fflint o’r dechrau ac elwa o gael y bobl dalentog hyn yn rhan o’u gweithlu.” 

Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Hft, Camau Nesaf, gwasanaeth cymorth iechyd meddwl awdurdod lleol a’r Fenter Gymdeithasol, Double-Click Design, amlygwyd hefyd y llwyddiannau a’r effaith gadarnhaol y gallai cyfleoedd cyflogaeth a gefnogir eu darparu. 

Roedd siaradwyr gwadd y digwyddiad yn cynnwys yr Arglwydd Barry Jones, Jack Sergeant AS a Terry Mills, Pencampwr Cyflogaeth Pobl Anabl Mae Llywodraeth Cymru. 

Yn ogystal â hynny, dangoswyd neges fideo o gefnogaeth arbennig gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y gynhadledd.  

Roedd nifer fawr o bobl yn bresennol ac roedd yn gyfle gwerthfawr i wasanaethau cymdeithasol, partneriaid trydydd sector, gwasanaethau addysg a busnesau lleol rwydweithio, a fydd yn sicrhau llwyddiant y prosiect peilot cyffrous hwn wrth iddo symud ymlaen i’r cam datblygu nesaf.   Ers y digwyddiad, rydym wedi derbyn tri ymholiad gan fusnesau gyda chynigion cyflogaeth posibl. 

Smashing the skills shortage 2.jpg

 

 

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Sian o Double-Click Design, Jo Taylor, Cyngor Sir y Fflint, Carolyn Thomas MS, Neil Ayling, a'r Cynghorydd Christine Jones