Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


MARCHNAD NADOLIG TREFFYNNON

Published: 12/12/2022

Holywell Xmas Market 2022.pngMewn partneriaeth â Chyngor Tref Treffynnon, cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint Farchnad Nadolig ddydd Sul 11 Rhagfyr. Roedd stondinau amrywiol ar y Stryd Fawr yn gwerthu anrhegion, crefftau, planhigion, dillad, bwyd a diod. 

Nid siopa Nadolig oedd yr unig weithgaredd!  Roedd cerddoriaeth ac adloniant ar gael gan Fflôt Sion Corn Glwb Rotari’r Fflint a Threffynnon ar y Stryd Fawr, ymunodd y ceirw â hwy yn nes ymlaen yn y diwrnod hefyd.   Cafodd nifer o deuluoedd dynnu llun Nadoligaidd gyda’r Glôb Eira ENFAWR yng Ngerddi’r Twr hefyd.

Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey:

“Denwyd trigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr i Farchnad Nadolig Treffynnon drwy gydol y dydd i gefnogi’r stondinau a’r siopau yng nghanol y dref, yn ogystal â dod â’r gymuned ynghyd."

Meddai’r stondinwr Doreen Lee o DASU:  “Mae’n wych i’r dref ac mae’n braf gweld pobl yn dod allan i fwynhau eu hunain.  Mae’n ffordd dda iawn o ddod â phobl ynghyd.”