Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taliadau budd-dal

Published: 12/12/2022

Money small.jpgPrydau Ysgol Am Ddim (eFSM)

Bydd taliad yn lle Cinio Ysgol Am Ddim (eFSM) ar gyfer Gwyliau'r Nadolig yn yr wythnos yn dechrau 19 Rhagfyr 2022. Dylai taliad o £39.00 fesul plentyn cymwys gyrraedd cyfrifon banc erbyn dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 fan bellaf. Bydd y taliad yn awtomatig i'r rhieni hynny y mae gennym fanylion banc ar eu cyfer.

Budd-dal Tai

Bydd taliad cynharach y Nadolig ar gyfer Budd-dal Tai. Dylai’r taliad gyrraedd cyfrifon erbyn diwedd y dydd ar ddydd Gwener 23 Rhagfyr 2022. Bydd y taliad yn cynnwys y taliadau hyd at 1 Ionawr 2023.