Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Treth y Cyngor Newydd

Published: 12/12/2022

SGAM.jpg

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi dod i wybod am dwyll Treth y Cyngor newydd.   Mae preswylwyr yn dweud eu bod wedi derbyn neges destun yn honni i fod yn Adran Treth y Cyngor yn dweud bod problem gyda’u debyd uniongyrchol Treth y Cyngor a’u bod angen darparu eu manylion banc i ddatrys hyn.  Os byddwch yn cael neges destun o’r fath, TWYLL YDYW, ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn cysylltu â chi yn y ffordd hon ynglyn â’ch Treth y Cyngor.  Os oes gennych unrhyw bryderon am eich Treth Cyngor, ffoniwch Gyngor Sir y Fflint ar 01352 704848.