Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gadael hoel pawen ar y palmentydd yn unig

Published: 14/12/2022

G-Frame kids all.jpg

Mae plant o ddwy ysgol yn Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd gyda’r Cyngor i godi ymwybyddiaeth ynghylch problem baw cwn yn Central Park a Golftyn Park, Cei Connah.

Ar y cyd gyda Chadwch Gymru’n Daclus, ac i adlewyrchu ar eu ‘hymgyrch mewn bag mewn bin’, bu i ddisgyblion o Ysgol Bryn Deva ac Ysgol Golftyn gymryd rhan mewn digwyddiadd treialu i annog perchnogion cwn i lanhau ar ôl eu cwn.  

Bu i blant awyddus gyda chymorth swyddogion gorfodi amgylcheddol a chynghorwyr lleol gerdded drwy’r parc, gan arsylwi ar ethos ‘peidiwch â chyffwrdd, dweud’ a phwyntio ar faw ci, fel bod yr oedolion yn marcio’r man gyda baner.   Bu i’r plant helpu rhannu neges ‘mewn bag, mewn bin’ a ‘gadael hoel pawen yn unig’ gyda chwistrell sialc golchadwy, pydradwy ar y palmentydd, gan arwain perchnogion cwn tuag at y biniau priodol. Cafodd y plant gyfle i glywed gan Groundwork Gogledd Cymru a phreswylwyr lleol ynghylch y broblem o faw cwn a sut mae’n effeithio ar eu bywydau a’r amgylchedd. Roedd perchnogion cwn lleol yn ddiolchgar o gael bagiau baw cwn am ddim ac arwyddion ‘goleuo yn y tywyllwch’ i amlygu’r biniau yn ystod oriau tywyll y gaeaf.  Cafodd llawer iawn o faw ci a amlygwyd eu glanhau yn nes ymlaen gan y Cyngor.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: 

“Mae baw ci yn parhau i fod yn broblem yn Sir y Fflint. Er fod nifer o’n perchnogion cwn yn glanhau ar ôl eu cwn, rydym yn cefnogi’r ymgyrch hwn i apelio gyda’r lleiafrif bychan o berchnogion cwn anghyfrifol i gadw ardaloedd cyhoeddus yn lân rhag baw cwn.”

Maeddai Jemma Bere, Rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus:

“Er bod oddeutu naw o bob deg perchennog cwn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid, mae baw cwn yn dal i fod yn broblem barhaus mewn cymunedau ledled y wlad. Gall baw ci fod yn beryglus i iechyd pobl ond hefyd i nifer o anifeiliaid eraill. 

Er mwyn hyrwyddo perchnogaeth cwn cadarnhaol a chyfrifol i’r lleiafrif o berchnogion cwn nad ydynt yn codi baw eu hanifeiliaid anwes, mae olion pawennau pinc llachar yn cael eu paentio ledled Cymru i arwain pobl at y bin agosaf. Ynghyd â’r olion pawennau trawiadol hyn mae sticeri bin ac arwyddion i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddod o hyd i fin baw cwn a gwneud y peth iawn.”

Dywedodd Ene o Ysgol Golftyn: “I’r bobl hynny sydd ddim yn glanhau ar ôl eu cwn, plîs wnewch chi oherwydd petaech CHI’N sefyll ynddo, ni fyddech CHI yn ei hoffi.”

Dywedodd Lexie o Ysgol Golftyn: “Mae llawer iawn o faw ci yn Golftyn Park, i ddweud y gwir bu i rywun adael i’w ci faeddu tra roeddem ni yno! Mae’n afiach chwarae yno gyda’r holl lanast”.

Group photo - Central Park.jpg Line photo - Central Park.jpg