Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Growth Track 360 yn croesawu penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd

Published: 08/12/2022

Mae Growth Track 360 yn croesawu penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd i ganiatáu mynediad ar y cyd i Linell y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston i Drafnidiaeth Cymru a Great British Railfreight (GBRf).  Bydd y penderfyniad yn galluogi cynnydd sylweddol mewn gwasanaethau teithwyr gan Drafnidiaeth Cymru, gan symud o wasanaethau bob awr i bob hanner awr y rhan fwyaf o’r dydd, ac amddiffyn gwasanaethau nwyddau gan GBRf i Hanson Cement.

Meddai’r Cyng. Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360:

“Mae penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yn un da. Mae gwasanaethau nwyddau ar Linell y Gororau yn golygu bod llai o lorïau nwyddau trwm ar y ffordd, gan leihau llygredd, tagfeydd traffig ac allyriadau carbon. Bydd mwy o wasanaethau i deithwyr gan Drafnidiaeth Cymru yn cynyddu gwerth Llinell y Gororau i bobl leol i gael mynediad at waith, gwasanaethau a chyfleusterau hamdden a bydd yn rhoi hwb i’r economi leol.

"Mae’r penderfyniad yn cynrychioli cyfaddawd rhwng gweithredwyr gwasanaethau nwyddau a theithwyr, a dylid eu llongyfarch amdano.  Gallwn yn awr symud ymlaen i ddechrau defnyddio mwy ar y llinell a gwella’r cysylltiad rhwng Wrecsam a Lerpwl a llawer o’r parthau cyflogaeth a phreswyl arwyddocaol ar hyd y llinell.”

Meddai’r Cyng. Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Is-Gadeirydd Growth Track 360: 

“Y brif neges o benderfyniad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yw bod yn rhaid cael buddsoddiad ar unwaith yn Llinell y Gororau o Wrecsam i Bidston, gan ddechrau â chefnogaeth Llywodraeth y DU i gais Cronfa Ffyniant Bro Sir y Fflint, uwchraddio Cilffyrdd Nwyddau Hanson Cement a Gorsaf newydd i Lannau Dyfrdwy i wasanaethu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

"Cafodd cais Sir y Fflint i’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Llinell y Gororau ei baratoi gan Drafnidiaeth Cymru. Fe’i cefnogir gan Hanson Cement ac Aelodau Seneddol ardal Merswy a’r Ddyfrdwy. Bydd yn datgloi potensial ased rheilffordd sydd wedi ei esgeuluso ers talwm i deithwyr a nwyddau, gan alluogi twf economaidd cynaliadwy.

"Gan fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud, rhaid i Drafnidiaeth Cymru achub ar y cyfle a chyflwyno’r gwasanaeth newydd i deithwyr cyn gynted â phosibl.”

Meddai Cynrychiolydd Busnes o Growth Track 360, Ashley Rogers, Prif Weithredwr Cyngor Busnes Merswy a’r Ddyfrdwy Gogledd Cymru:

“Bydd y bwlch mewn gwasanaethau teithwyr fel bod nwyddau’n gallu cael eu symud yn digwydd ar adegau brig traddodiadol, sy’n anfantais hirdymor posibl i wasanaethau teithwyr. Mae gan y cwmni nwyddau ddyheadau hefyd i gynyddu gwasanaethau nwyddau ymhellach i leihau cludo nwyddau trwm ar y ffyrdd ac allyriadau carbon. Mae penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yn gyfaddawd tymor byr, i ddisgwyl am fuddsoddiad sydd wir ei angen i gynyddu capasiti ar y llinell.

"Mae angen uwchraddio cilffyrdd nwyddau Hanson Cement ar frys, fel y cynigir yng nghais ddiweddar Sir y Fflint i’r Gronfa Ffyniant Bro. Bydd hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru ddarparu gwasanaethau bob hanner awr drwy gydol y dydd ac o bosibl, cynyddu’r gwasanaeth i ddwy drên yr awr yn y dyfodol os bydd niferoedd yn cynyddu, a galluogi mwy o wasanaethau nwyddau yr un pryd.

"Penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yw’r cam cyntaf ar y daith o fuddsoddi a gwella gwasanaeth i wneud gwell defnydd o’r ased rheilffordd gwych hwn sy’n cael ei dan-ddefnyddio i’n rhanbarth.”