Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadwch yn ddiogel ar y ffyrdd y Nadolig hwn

Published: 02/12/2022

5Anheuol.jpgGyda chyfnod y Nadolig yn agosáu mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi heddluoedd ar draws Cymru yn atgoffa pobl sy’n edrych ymlaen at noson allan i beidio yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau. 

Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru – Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent – wedi lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau ac yn anelu dal pobl sy’n peryglu eu bywydau, a bywydau pobl eraill, drwy yfed a gyrru a/neu yrru ar gyffuriau. 

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford o Heddlu Gogledd Cymru mai bwriad yr ymgyrch yw ceisio atal bywydau rhag cael eu colli’n ddiangen oherwydd gyrwyr anghyfrifol sy’n torri’r gyfraith.

Ychwanegodd: “Ar ôl dwy flynedd anodd, yn naturiol, bydd pobl eisiau mwynhau eu hunain y Nadolig hwn. Mae’r heddlu’n awyddus i bobl fwynhau Cwpan y Byd, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel.  

“Rydym yn atgoffa aelodau o’r cyhoedd y gall mynd tu ôl i’r llyw o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau arwain at ganlyniadau difrifol.

“Nid dim ond am golli trwydded  rydym yn sôn, sy’n aml yn arwain at golli swydd. Mae yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau’n arwain at lawer gormod o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol. Gall hyn arwain at garchar a chanlyniadau ar gyfer sawl teulu.

“Mae nifer o’n swyddogion ni wedi gweld canlyniadau trychinebus yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Mae gorfod dweud wrth rhywun fod un annwyl iddynt wedi cael eu lladd oherwydd penderfyniad hunanol rhywun o dan ddylanwad yn un o’r rhannu gwaethaf o’n swydd ni. Gwnewch yn siwr nad chi yw’r un sy’n gyfrifol am ddinistrio teulu’r Nadolig hwn.

“Bydd ein staff ar y ffyrdd yn edrych am bobl sy’n yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Gall unrhyw un sy’n cael ei ddal ddisgwyl fod yn y llys o fewn saith diwrnod ar ôl cael ei arestio.”

Yn ystod ymgyrch y llynedd, a gynhaliwyd o 1 Rhagfyr 2021 tan 1 Ionawr 2022, arestiwyd 115 o unigolion am yfed a gyrru, ac arestiwyd 72 am yrru ar gyffuriau yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.  

Dywedodd yr Arolygydd Gareth Pearson o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Wrth i dymor y Nadolig gychwyn, rydym yn atgoffa gyrwyr am beryglon a chanlyniadau yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau.

“Bydd swyddogion o’r Unedau Plismona Ffyrdd, y Gynghrair Plismona, Timau Cymunedol a’r Heddlu Gwirfoddol yn gweithio ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos. Dylai unrhyw un sy’n ystyried yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau wybod y byddwn ni allan yn disgwyl amdanynt.”

Mae’n debygol y bydd rhai partïon swyddfa’n dychwelyd eleni. Gan gadw hynny mewn cof, mae swyddogion yn gofyn i bobl gynllunio ymlaen llaw, meddwl am yr hyn y byddant o bosibl yn ei wneud, a sicrhau eu bod nhw’n trefnu tacsi i fynd â nhw adref. 

Maent hefyd yn atgoffa pobl mai dwy uned yw’r terfyn o ran yfed a gyrru, nid dau ddiod.    

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi hymrwymo i ymdrin ag yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau drwy gydol y flwyddyn, nid dros gyfnod y Nadolig yn unig. Rydym hyd yn hyn eleni wedi gwneud dros 850 o arestiadau am yfed a gyrru a thros 740 o arestiadau am yrru ar gyffuriau.

Mae gwybodaeth gan y cyhoedd yn hanfodol er mwyn ymdrin â’r broblem. Felly os ydych chi’n ymwybodol am rywun sy’n gyrru o dan ddylanwad, gwnewch y peth iawn a hysbyswch ni amdanynt drwy ffonio 101. Ffoniwch 999 os ydynt yn achosi perygl uniongyrchol. Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.