Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Premiwm Treth y Cyngor 2023

Published: 07/12/2022

Bydd y Cyngor yn ystyried y raddfa Premiwm Treth y Cyngor presennol o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn fuan i benderfynu pa un a ddylai’r raddfa aros yr un fath neu gael ei amrywio i 75% ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor a 100% i Ail Gartrefi o Ebrill 2023.   

Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi cael pwerau disgresiwn ers 2017 i godi premiwm Treth y Cyngor o hyd at 100% uwchlaw’r raddfa safonol o Dreth y Cyngor ar rai categorïau o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.  Roedd y Cyngor wedi cyflwyno cynllun premiwm o 2017 ac wedi sefydlu cyfradd premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.   Mae’r gyfradd hon wedi bod yn berthnasol bob blwyddyn ers 2017.  

O fis Ebrill 2023, bydd gan awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd y gallu i godi neu amrywio cyfradd premiwm Treth y Cyngor o hyd at 300% uwchlaw’r tâl safonol.  

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2021, roedd dros 50% o’r sawl a ymatebodd yn teimlo y dylai’r gyfradd premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor gynyddu uwchlaw’r raddfa 50% presennol.    

Roedd bron dwy ran o dair yn teimlo bod eiddo gwag hirdymor yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.   Roedd bron hanner y sawl wnaeth ymateb yn teimlo bod ail gartrefi yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.   Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr hefyd yn ystyried bod ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn gostwng argaeledd tai fforddiadwy.  

Bydd gosod y gyfradd premiwm uwchlaw’r lefelau presennol yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gymell perchnogion i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd llawn.  

Wrth wneud sylw ar y newidiadau arfaethedig, dywedodd y Cyng Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Mae datrys problemau tai a bodloni’r galw cynyddol am dai fforddiadwy, yn arbennig prynwyr tai am y tro cyntaf, yn parhau’n strategaeth gymhleth yn cynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol.  Mae gwella cymunedau lleol a mynediad i dai fforddiadwy, yn ogystal â gwneud defnydd llawn o gartrefi gwag, yn parhau’n flaenoriaeth i’r Cyngor.  

“Rydym eisiau annog perchnogion i roi defnydd newydd i gartrefi gwag a bydd parhau i ddefnyddio’r cynllun Premiwm Treth y Cyngor, ar raddfeydd cynyddol, yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau.” 

Mae gan y Cyngor gynlluniau ar waith i gefnogi perchnogion i roi defnydd newydd i eiddo gwag.   Mae manylion pellach ar gael drwy anfon e-bost at EmptyHomes@flintshire.gov.uk neu drwy gael mynediad i wybodaeth ar wefan y Cyngor