Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Blasu
Published: 22/07/2014
Bu disgyblion Ysgol Uwchradd Cei Connah yn gweithio fel peintwyr am y dydd yn
ystod gweithdy blasu sgiliau diweddar.
Trefnwyd y diwrnod blasu adeiladu fel rhan o raglen menter gymunedol ar y cyd
rhwng Tîm Rheoli Asedau Tai Cyngor Sir y Fflint, Cymunedau’n Gyntaf a chwmni
Bell Group, sy’n cael ei gontractio i gwblhau gwaith ar stoc dai Cyngor Sir y
Fflint.
Bwriad y gweithdy oedd rhoi blas i ddisgyblion o yrfaoedd ym meysydd peintio,
addurno a gwaith coed. Cafodd y disgyblion gyfle i wneud gwaith ymarferol a
chael cyngor megis iechyd a diogelwch, offer a nwyddau, sgiliau ymarferol a
chyfleoedd gyrfaol. Dysgodd disgyblion o flwyddyn 10 sgiliau sylfaenol peintio
a gwaith coed wrth ailwampio ystafell ddosbarth yn yr ysgol.
Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymunedau a Menter yng Nghyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn eithriadol o falch o gael gweithio gyda chwmni
Bell Group a Chymunedau’n Gyntaf i ddarparu mentrau Lles Cymunedol drwy ei
raglen gwariant cyfalaf, gan uwchraddior stoc dai er mwyn cyrraedd Safon
Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar yr un pryd”.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae hwn yn gyfnod
cyffrous iawn o ran rhoi cyfleoedd i’r gymuned ehangach drwy ein rhaglen
ddarparu SATC a diolchwn i gwmni Bell Group am helpu i roi blas o’r hyn sydd
gan y diwydiant adeiladu i’w gynnig i’n cenhedlaeth iau.”
Ychwanegodd Anna Higham, Rheolwr Buddsoddiadau Cymunedol yn Bell Group: “Rydym
wedi cael ein plesio gan gyflymder ac ymroddiad y cyfranogwyr ac mae ein
Rhaglen Profiad Gwaith Gwirfoddol sy’n cynnwys pythefnos llawn o brofiad ar
safle, wedi cael ei gynnig i bob disgybl wrth iddynt droi 16 oed.”
Llun: Disgyblion yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn cymryd rhan yn y diwrnod blasu
gyrfa adeiladu.