Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi wyneb newydd ar Ffordd y B5127 Mill Lane, Bwcle

Published: 15/11/2022

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid ar gael i roi wyneb newydd ar ffordd y B5127 Mill Lane, Bwcle (rhwng signalau traffig A549 a’r gyffordd i Linthorpe Road) yn dechrau ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.

I hwyluso’r gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol (yn dibynnu ar y tywydd):

• Dydd Sadwrn 19 Tachwedd a dydd Sul 20 Tachwedd rhwng 08:00 a 18:00. 

• Dydd Llun 21 Tachwedd a dydd Mawrth 22 Tachwedd rhwng 09.30 a 15.00.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.

Mae’r Cyngor, ynghyd â’n contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.