Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ddoe a Heddiw – Blaendraeth Bagillt

Published: 10/11/2022

 Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn dathlu diwedd prosiect Ddoe a Heddiw – ‘Blaendraeth Bagillt trwy ryddhau ffilm fer yn dathlu hanes Bagillt. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r prosiect wedi ymdrechu i wella gwerth bywyd gwyllt y blaendraeth a chodi ymwybyddiaeth am dreftadaeth ddiddorol y safle.   PHOTO-2022-10-05-15-04-50.jpg

Crëwyd systemau ffosydd i helpu bwydo mwy o ddwr i ‘Bwll Dwr’, yn ogystal â thynnu’r prysgwydd sydd o’i amgylch, yn ogystal â phrosiect hynod lwyddiannus i dynnu chwyn ymledol Crassula helmsii. Os na wneir dim yn ei gylch, bydd y chwyn yn dinistrio’r pwll, trwy ffurfio haen drwchus dros wyneb y dwr, gan gau’r haul allan i bopeth sy’n byw oddi tano. 

Tynnwyd prysgwydd hefyd er mwyn creu cynefin mwy addas ar gyfer y Llyffant Cefnfelyn, un o amffibiaid mwyaf prin Cymru. Daethpwyd â mwy o dywod i’r safle er mwyn darparu twyni tywod gaeafu gwell ar gyfer y llyffantod hefyd. Roedd 2022 y flwyddyn orau eto i’r Llyffantod Cefnfelyn ym Magillt, gyda’r llyffantod yn bridio ar y safle am y tro cyntaf. Gosodwyd panel newydd hefyd er mwyn addysgu pobl am y rhywogaethau arbennig hyn. 

Cyflwynwyd systemau pori er lles cadwraeth ar y safle, gyda pump o wartheg yn treulio diwedd y gaeaf a dechrau gwanwyn 2022 mewn dau badog newydd a grëwyd ger Coelcerth y Ddraig.IMG-5843.jpg Bydd y system bori, dros amser, yn troi’r ardal o fod yn ddolydd anffafriol i un ffafriol, yn ogystal â chynyddu’r fflora a’r ffawna a geir yno. 

Plannwyd perthi newydd a chynhaliwyd digwyddiadau gyda phobl leol a galwyd ar arbenigwyr hefyd fel rhan o ddigwyddiad Bioblitz, i edrych ar y planhigion, pryfaid, adar ac anifeiliaid a geir ar y safle. 

Yn ogystal â gwelliannau ymarferol, mae’r prosiect wedi rhoi’r cyfle i ddathlu hanes a threftadaeth bwysig Bagillt. Crëwyd llwybr digidol er mwyn galluogi pobl i fwynhau’r dreftadaeth gyfoethog ar eu ffonau clyfar ac ar-lein (www.northeastwalestrails.com), neu mae’r wybodaeth hefyd ar gael mewn taflen. Gosodwyd cofeb deial haul i gydnabod y marwolaethau trasig ar y safle pan yr oedd yn cael ei ddefnyddio fel mwynglawdd glo ac mae cylch meini’r orsedd yn cynrychioli cysylltiad hanesyddol Bagillt â’r Eisteddfod. 

Rhan olaf y prosiect yw’r ffilm anhygoel sy’n dangos sut mae Bagillt wedi newid dros amser ac mae’n cynnwys perfformiadau rhagorol gan blant ysgol lleol mewn cymeriad o Ysgol Merllyn. Casglodd y plant wybodaeth i greu amserlen o arfordir Bagillt, fel sail ar gyfer perfformiad drama a ddangoswyd i rieni ac ar gyfer creu ffilm derfynol yn adrodd hanes diddorol Bagillt. 

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol trwyhttps://digital.flintshire.gov.uk/FCC_PressRelease/Attachment/Display/12208

grant o £39,300 o arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac mae’n llunio rhan o brosiect ehangach, gan gydweithio â phrosiect ‘Bioamrywiaeth ar gyfer Bagillt’ a ariennir gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd, Cefn Gwlad a’r Economi: “Mae’r prosiect ysbrydoledig hwn wedi  dangos gwaith gwych o ran cadwraeth ar gyfer Blaendraeth Bagillt ac yn ymfalchïo yn ei etifeddiaeth ddiddorol ac arloesol. Mae’r cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi hwyluso addysg a dathliad o dreftadaeth leol a natur o fewn y gymuned leol, rhywbeth y gobeithiaf a fydd yn cael effaith hirdymor. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect ac edrychaf ymlaen at rannu’r ffilm o fewn fy rhwydweithiau”.      

Nodyn i Olygyddion:

Dolen i ffilm https://youtu.be/ARBlgfgr2Wc

Ynglyn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru

• Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain ac yn rhoi adnoddau i dreftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol sy’n un parhaus i bobl a chymunedau, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/107838

• Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd at achosion da ar draws y DU bob wythnos.  

• Dilynwch @CronfaDreftadaethyLoteri ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol